Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 01248 752516
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod newu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd T V Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas â chais 6.4 ond dywedodd ei fod wedi cael cyngor gan Adran Gyfreithiol y Cyngor a Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ei bod yn briodol iddo gymryd rhan yn y mater hwn.
Datganodd y Cynghorydd T V Hughes ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 7.1.
Datganodd y Cynghorydd W T Hughes ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 6.1.
Datganodd y Cynghorydd R O Jones ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 6.1.
Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt cais 6.3.
Datganodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddiddordeb yng nghyswllt cais 6.4 a dywedodd y byddai'n gadael y Siambr ar gyfer y drafodaeth ar y cais. |
|
Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2ail Tachwedd, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Cyflwyno cofnodion yr ymweliadau safle cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion yr ymweliadau safle a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir. |
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd siaradwyr cyhoeddus mewn perthynas â cheisiadau 7.2 and 7.4. |
|
Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 694 KB 6.1 20C310B/EIA/RE – Rhyd y Groes, Rhosgoch 6.2 23C280F – Plas Llanfihangel, Capel Coch 6.3 34C681 – Stâd Ty’n Coed, Llangefni 6.4 36C338A – Ysgol Henblas, Llangristiolus 6.5 45C468 – Bodrida Bach, Brynsiencyn
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 20C310B/EIA/RE – Cais llawn i adeiladu fferm area solar 49.99MW ynghyd ag offer cysylltiedig, seilwaith a gwaith ategol ar dir ger Rhyd y Groes, Rhosgoch
(Ar ôl datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllty y cais hwn, gadawodd y Cynghorwyr W T Hughes ac R O Jones y cyfarfod cyn y drafodaeth a'r penderfyniad arno.)
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.2 23C280F - Cais llawn i godi sied amaethyddol a pharlwr godro, ynghyd â chreu pwll slyri yn Plas Llanfihangel, Capel Coch
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.3 34C681 - Cais amlinellol ar gyfer codi 8 annedd a 2 annedd fforddiadwy gyda’r holl faterion wedi'u cadw'n ôl, ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir y tu cefn i Stad Coed Tyn, Llangefni
(Ar ôl datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cyfarfod cyn y drafodaeth a'r penderfyniad arno.)
PENDERFYNWYD y dylid ymweld â'r safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.4 36C338A - Cais llawn i godi annedd a garej ar wahân ar dir gyferbyn ag Ysgol Henblas, Llangristiolus
(Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cyfarfod cyn y drafodaeth a'r bleidlais arno.)
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
6.5 45C468 - Cais llawn i addasu adeilad allanol i greu annedd, adeiladu mynedfa i gerbydau, gosod gwaith trin pecyn ynghyd â chodi strwythur lliniaru ecoleg yn Bodrida Bach, Brynsiencyn
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
7.1 15C215C – Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr 7.2 15C30H/FR – Fferm Pen y Bont, Malltraeth 7.3 25C242 – Tyn Cae, Coedana, Llannerchymedd 7.4 39C561/FR/TR – Y Lodge, Ffordd Caergybi, Porthaethwy 7.5 44C102A – Hazelbank, Rhosybol
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 15C215C - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â gosod tanc septig ar dir ger Tyddyn Bwrtais, Llangadwaladr
(Ar ôl datgan diddordeb yn y cais, nid oedd y Cynghorydd T. Victor Hughes yn bresennol yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad yn ei gylch).
Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cais hwn er mwyn rhoi sylw i'r mater fel Aelod Lleol. Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd ar gyfer yr eitem hon.
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2016 penderfynodd y Pwyllgor y dylid ymweld â’r safle a gwnaed hynny’n ddiweddarach ar 19 Hydref, 2016. Yn y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2016 penderfynwyd caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 o Gynllun Lleol Ynys Môn. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddog Cynllunio yn parhau i fod o’r farn bod y plot yn weledol ar wahân i bentrefan Llangadwaladr gan olygu y byddai’n ymwthiad annymunol y y cefn gwlad ac y byddai'n erydu cymeriad a harddwch naturiol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Nododd y byddai’n anodd gwrthod unrhyw ddatblygiadau preswyl yn y dyfodol ar y cae; byddai hyn yn cael effaith andwyol ar yr ardal leol. ‘Roedd y Swyddog yn argymell gwrthod.
Cadarnhaodd y Cynghorydd K P Hughes ei benderfyniad blaenorol i gefnogi'r cais a chynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at y sylwadau yn y cyfarfod diwethaf a oedd yn dweud bod Llangadwaladr yn bentref rhestredig ac y gellir cymeradwyo plotiau unigol a dywedodd bod patrwm o anheddau o'r fath eisoes yn bodoli yn y pentref. Eiliodd y cynnig i gymeradwyo'r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies y byddai'r cais hwn yn ymwthio i’r cefn gwlad a chynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig. Yn dilyn y bleidlais : -
PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais gyda’r amodau a nodir gan y Swyddogion.
7.2 15C30H / FR - Cais llawn i newid defnydd a wneir o dir amaethyddol i ymestyn y parc carafanau presennol i leoli 14 o garafanau teithiol ychwanegol, ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm Touring & Camping, Malltraeth
Cyflwywnyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol, y Cynghorydd Peter Rogers. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2016 penderfynodd y Pwyllgor y dylid ymweld â’r safle a gwnaed hynny’n ddiweddarach ar 16 Tachwedd, 2016.
Siaradodd yr ymgeisydd, Mr Jeff Hughes o blaid y cynnig. Dywedodd Mr Hughes fod y Llywodraeth wedi gofyn i ffermwyr arallgyfeirio yn y 1980au hwyr. Yn dilyn trafodaeth gydag ADAS dywedodd eu bod wedi ystyried agor safle ar gyfer carafanau sefydlog yn Fferm Pen y Bont. Awgrymodd yr awdurdod cynllunio na fyddai safle ar gyfer carafanau ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Ceisiadau'n Gwyro Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath i’w hystyried gan y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion PDF 314 KB 11.1 23C339 – Tyn Llidiart, Talwrn 11.2 48C197 – Penclegir, Gwalchmai
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 23C339 - Cais llawn i addasu adeilad allanol i greu dwy annedd yn Tyn Llidiart, Talwrn
Cyflwynwydy cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol yn yr Adran Gynllunio. Mae'r cais wedi cael archwilio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedoddy Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio ar gyfer addasu adeiladau allanol i greu anheddau. Mae’r Adroddiad Strwythurol yn cadarnhau bod yr adeilad presennol yn strwythurol gadarn ac yn addas ar gyfer ei addasu.
Cynigioddy Cynghorydd Nicola Roberts y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.
11.2 48C197 - Cais llawn i addasu adeilad allanol yn annedd sy'n cynnwys balconi ynghyd â gwelliannau i'r fynedfa i gerbydau ar dir gyferbyn â Penclegir, Gwalchmai
Cyflwynwydy cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol yn yr Adran Gynllunio. Mae'r cais wedi cael ei archwilio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedoddy Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio ar gyfer addasu adeilad i greu anedd ac ystyrir bod y cynllun yn dderbyniol o fewn y cyd-destun polisi hwn.
Cynigioddy Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
Gweddill y Ceisiadau PDF 325 KB 12.1 19LPA1030/CC – Ysgol Santes Fair, Ffordd Longford, Caergybi
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 12.1 19LPA1030 / CC - Cais llawn ar gyfer lleoli dosbarth symudol yn Ysgol Gynradd y Santes Fair, Heol Longford, Caergybi
Cyflwynwydy cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno gan ei fod yn gais yr Awdurdod Lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig. |
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw faterion eraill yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |