Rhaglen a chofnodion

Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Iau, 9fed Hydref, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber - Council Offices

Cyswllt: Mr Huw Jones 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau a’u harwyddo, gofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol :-

 

  8 Mai, 2014 (10.30 am)

  8th Mai, 2014 (Cyfarfod Blynyddol) (2.00 pm)

  29th Gorffennaf, 2014 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o Gyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol :-

 

  8 Mai, 2014 (10:30 a.m.)

  8 Mai, 2014 (Cyfarfod Blynyddol) (2:00 p.m.)

  29 Gorffennaf, 2014 (Arbennig)

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

3.

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor, y Pwyllgor Gwaith neu'r Prif Weithredwr

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd y cyhoeddiadau a ganlyn:

 

  Bydd cynrychiolwyr o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ymweld â Swyddfeydd y Cyngor yn ystod yr wythnos yn dechrau 13 Hydref.

  Mae ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn cael ei gynnal gan Horizon hyd 8 Rhagfyr 2014 ar ei gynlluniau ar gyfer prosiect Wylfa Newydd.

  Rhaid oedd llongyfarch pob un a oedd yn llwyddiannus mewn cystadlaethau yn Sioe Frenhinol Cymru (Gorffennaf), yr Eisteddfod Genedlaethol (Awst) a Sioe Ynys Môn (Awst).  Cyfeirir yn benodol at y Cynghorydd Llinos M. Huws ar lwyddiant y teulu yn y categori ar gyfer y gwartheg godro gorau yn Sioe Amaethyddol Môn.

  Rydym am longyfarch pob un o ddisgyblion yr ysgolion uwchradd oedd yn llwyddiannus yn eu harholiadau'r Haf hwn ac i rai o blith staff y Cyngor a lwyddodd yn eu harholiadau proffesiynol.

  Llongyfarchiadau i Iolo Hughes, Llanfechell, disgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch sydd yn bencampwr rhedwyr mynydd Prydain a Gogledd Iwerddon o dan 20 oed, ac i holl aelodau Tîm Gemau’r Gymanwlad Cymru fu’n llwyddiannus yn creu record am fedalau a enillwyd gan dîm Cymru yn y Gemau yn Glasgow yn ystod yr haf.

  Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Jim Evans a Mrs Evans ar ddathlu eu Priodas Aur.

  Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Richard Owain Jones sydd hyd yn hyn wedi codi 12k tuag at achosion da lleol drwy feicio o Amlwch i Gaerdydd.

  Nodwyd bod 2014 yn flwyddyn canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Talodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, yn ei gapasiti fel Pencampwr y Lluoedd Arfog deyrnged i rai oedd wedi brwydro ac wedi gwneud aberthau yn ystod y rhyfel gan grybwyll yn benodol yr unigolion o Ynys Môn a Chymru oedd wedi ennill bri yn ystod cyfnod y Rhyfel Mawr.  Cyfeiriodd hefyd at y cyfraniad a wnaed gan nifer o gynghorau cymuned tuag at y Gofeb yn Ypres yng Ngwlad Belg i rai o Gymru a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

  Cyhoeddodd y Cadeirydd y bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yng Nghaergybi ar 15 Hydref i goffau’r cysylltiad rhwng y dref a’r Iseldiroedd.

4.

Cwestiynau a Dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.12.2 y Cyfansoddiad

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

5.

Cyflwyno Deisebau

Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol a Pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

6.

Adroddiad Perfformiad 2013/14 pdf eicon PDF 3 MB

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi, 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

PENDERFYNWYD i ddirprwyo awdurdod i'r Dirprwy Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio ar gyfer Perfformiad Corfforaethol, i gwblhau a chyhoeddi'r cynllun llawn ar gyfer ei

gyflwyno i'r Cyngor llawn ym mis Hydref.

 

  Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

6.1  Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith, yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

Dirprwyo i’r Dirprwy Brif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Deilydd Portffolio ar gyfer Perfformiad Corfforaethol, hawl i gwblhau a chyhoeddi’r cynllun llawn i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Hydref.

 

6.2  Cyflwynwyd i’w ystyried adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn cynnwys Adroddiad Perfformiad Cyngor Sir Ynys Môn am 2013-14.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad gweledol lle'r oedd yn amlygu’r prif gasgliadau o’r dadansoddiad o berfformiad y Cyngor yn ystod 2013-17 yn erbyn cyfres o ddangosyddion cenedlaethol ac yn erbyn yr addewidion a wnaed yn ystod blwyddyn gyntaf Cynllun Corfforaethol pedair blynedd y Cyngor am 2013-17.  Cyfeiriodd at y tri phrif faes gwasanaeth oedd yn ffurfio ffocws y gwelliant yn ystod y cyfnod mewn perthynas ag Addysg, Gwasanaethau Plant ac Oedolion a chrynhowyd sut yr oeddent wedi perfformio.  Yn gyffredinol, roedd safiad yr Awdurdod yn 10fed allan o’r 22 Awdurdod yng Nghymru ar ddiwedd 2013/14 yn cynrychioli gwelliant yn ei sefyllfa yn ystod y ddwy flynedd flaenorol ac yn nodi bod perfformiad Cyngor Sir Ynys Môn yn symud tuag at i fyny a’i fod yn gallu bodloni un o brif amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru sef gallu arddangos gwelliant parhaus.  Yr her yw cynnal y momentwm a chynyddu cyflymder y gwelliant.

 

Tynnodd y Deilydd Portffolio ar gyfer Perfformiad Corfforaethol sylw at faint y gwaith oedd y tu ôl i’r adroddiad.  Siaradodd Aelodau’r Cyngor am yr adroddiad a thra roeddent yn cydnabod y gwelliannau a wnaed ar draws ystod o feysydd gwasanaeth, roeddent hefyd yn cydnabod bod angen gwneud gwaith pellach i barhau i roi sylw i’r meysydd a nodwyd fel rhai sy’n tanberfformio er mwyn parhau gyda’r patrwm o wella.

 

Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol am 2013/14 i’w gyhoeddi erbyn y dyddiad cau statudol ar 31 Hydref.

 

7.

Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol am 2013/14 pdf eicon PDF 559 KB

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi, 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn :-  

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad.”

 

  Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busines y Cyngor).

Cofnodion:

7.1  Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith, yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi 2014 wedi penderfynuderbyn yr adroddiad”.

 

7.2  Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn cynnwys yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol am 2013/14.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith a derbyn yr Adolygiad Rheoli trysorlys Blynyddol am 2013/14.

8.

Newidiadau Cyfansoddiadol - Rheolau Gweithrefn y cyngor a phenodi Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 325 KB

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi, 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

·        argymell i'r Cyngor llawn bod y Cyngor yn cymeradwyo'r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor fel

yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitrol.

Cofnodion:

8.1  I adrodd bod y Pwyllgor Gwaith, yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2014, wedi penderfynu fel a ganlyn:

 

Argymell i’r Cyngor llawn bod y Cyngor yn cymeradwyo’r newidiadau i’r Cyfansoddiad fel oedd wedi ei amlinellu yn yr adroddiad.

 

8.2  Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Meirion Jones welliant, a chytunwyd arno, i eiriad Rheol Gweithdrefn y Cyngor 4.1.2.7 (i) i ddarllenderbyn a chadarnhau’r rhestr o benodiadau i gyrff allanol nad oes yn rhaid iddynt fod yn Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn unol ag adran 5.8.4.2.”.  Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) ei bod yn fodlon gyda’r gwelliant ac yn ei gefnogi.  Cynigiodd y Cynghorydd Meirion Jones hefyd y byddai darllen Cyfansoddiad y Cyngor ar-lein yn haws pe gellid darparu cyswllt i adrannau unigol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Gwaith gyda’r newid a gytunwyd i Reol Gweithdrefn 4.1.2.7. (i)

9.

Newidiadau i’r Cyfansoddiad – Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 221 KB

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 19 Mai, 2014 wedi penderfynu fel a galnlyn :-

 

Argymell i’r Cyngor Sir:

 

·       I gymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i ran 4.2.12 y Cyfansoddiad fel y manylir arnynt yn yr atodiad i’r adroddiad, ac

 

·       I awdurdodi’r Swyddog Monitro I ddiweddaru’r Cyfansoddiad ar y sail honno.”

 

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.

Cofnodion:

9.1  Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mai 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn:

 

I argymell i’r Cyngor Sir -

 

  Bod y gwelliant arfaethedig i Rhan 4.2.12 y Cyfansoddiad fel y manylir arno yn yr atodiad i’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo, a

  Bod y Swyddog Monitro’n cael ei hawdurdodi i ddiweddaru’r Cyfansoddiad yn unol â hynny.

 

9.2  Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro ynglŷn â’r uchod.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith.

10.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad - Rheoliadau Absenoldeb Teuluol pdf eicon PDF 407 KB

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyreid yr uchod yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf, 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

·        Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Sir:

 

Ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau I Gyfansoddiad y Cyngor fel oedd i’w gweld yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

• Y bydd Is-Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei sefydlu i’r pwrpas o wrando apeliadau o dan y Rheoliadau.

 

• Pan fo Aelod yn cymryd absenoldeb teuluol o dan y Rheoliadau, ac yn derbyn uwch gyflog, ni fydd yr uwch gyflog hwn yn cael ei dalu yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb teuluol sydd yn fwy na phythefnos. Yn unol a’r Rheoliadau, mae Aelodau yn parhau i fod yn gymwys I dderbyn eu lwfans sylfaenol. Gellir penodi dirprwy i lanw dros yr Aelod ar absenoldeb teuluol cyn belled ag y bo’r cyfnod o absenoldeb yn parhau am fwy na phythefnos, a bydd gan y dirprwy hawl i dderbyn uwch gyflog lle bo’n briodol.

 

• Y rhoddir awdurdod dirprwyedig gan y Cyngor i’r Prif Weithredwr i ganslo neu i ddiweddu cyfnod o absenoldeb teuluol nad yw yn dod o dan y Rheoliadau.

 

   Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitoro.

Cofnodion:

10.1  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith, yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

Argymell i’r Cyngor Sir :-

 

  Ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor fel oedd i’w gweld yn Atodiad 1 yr adroddiad.

  Y bydd Is-Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei sefydlu i’r pwrpas o wrando apeliadau o dan y Rheoliadau.

  Pan fo Aelod yn cymryd absenoldeb teuluol o dan y Rheoliadau, ac yn derbyn uwch gyflog, ni fydd yr uwch gyflog hwn yn cael ei dalu yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb teuluol sydd yn fwy na phythefnos. Yn unol â’r Rheoliadau, mae Aelodau yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn eu lwfans sylfaenol.  Gellir penodi dirprwy i lanw dros yr Aelod ar absenoldeb teuluol cyn belled ag y bo’r cyfnod o absenoldeb yn parhau am fwy na phythefnos, a bydd gan y dirprwy hawl i dderbyn uwch gyflog lle bo’n briodol.

  Y rhoddir awdurdod dirprwyedig gan y Cyngor i’r Prif Weithredwr i ganslo neu i ddiweddu cyfnod o absenoldeb teuluol nad yw yn dod o dan y Rheoliadau.

 

10.2  Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) yng nghyswllt yr uchod.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith yn hyn o beth.

11.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad - Mynychu o Bell pdf eicon PDF 179 KB

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf, 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

·        Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Sir –

 

Ei fod yn nodi’r adroddiad a’r disgresiwn a ddarperir yn Adran 4 Mesur Llywodraeth Leol Cymru 2011.

 

Ei fod yn gwrthod y defnydd o drefniadau mynychu o bell ar hyn o bryd.

 

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

11.1    Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn:

 

Argymell i’r Cyngor Sir :-

 

  Ei fod yn nodi’r adroddiad a’r disgresiwn a ddarperir yn Adran 4 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

  Ei fod yn gwrthod y defnydd o drefniadau mynychu o bell ar hyn o bryd.

 

11.2    Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yng nghyswllt yr uchod.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ann Griffith at yr angen i annog mwy o bobl yn cynnwys unigolion o oed gweithio, i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd er mwyn hyrwyddo a sicrhau democratiaeth iach ac amrywiol.  Byddai cyflwyno cyfleusterau mynychu o bell yn helpu yn hyn o beth.  Dywedodd ei bod yn credu ei fod yn bwysig bod y Cyngor yn cefnogi’r fenter hon mewn egwyddor er mwyn ei gwneud yn haws i unigolion, beth bynnag fo’u hamgylchiadau, i gymryd rhan mewn democratiaeth leol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yntau hefyd yn gefnogol i’r syniad o fynychu o bell mewn egwyddor, ond bod yr adroddiad yn cyfeirio at y goblygiadau technegol ac adnoddau o gyflwyno’r cyfleuster hwn ar hyn o bryd.  Mae hwn yn fater y gellir ail-ymweld ag ef wrth i’r gofynion a’r gallu i gyfarfod â hwy ddod yn fwy eglur.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith yn yr achos hwn.

12.

Newidiadau Cyfansoddiadol - Fframwaith Polisi pdf eicon PDF 635 KB

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi, 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Cyngor llawn bod y Cyngor yn cymeradwyo'r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.”

 

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

12.1   Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn:

 

Argymell i'r Cyngor llawn bod y Cyngor yn cymeradwyo'r newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad”.

 

12.2   Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â’r uchod.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith.

13.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad - Rheoliadau Rheolau Sefydlog pdf eicon PDF 176 KB

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 8 Medi, 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn :

 

·        PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn:-

 

·         Nodi cynnwys y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog)(Diwygiad)(Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).

 

·          Cyfarwyddo’rSwyddog Monitro i ddiwygio’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r newidiadau sydd raid wrthynt er mwyn sicrhau bod y Cyfansoddiad yn gyson â Rheoliadau 2014 fel y manylir ar y rheini yn yr adroddiad. Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud newidiadau i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog)(Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006) o ganlyniad i newidiadau a gyflwynwyd gan Fesur Llywodraeth Leol(Cymru) 2011.

 

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitor.

Cofnodion:

13.1   Adrodd bod y Pwyllgor Gwaith yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn:

 

Argymell i'r Cyngor llawn :-

 

  Ei fod yn nodi cynnwys y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Diwygiad) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”).

  Ei fod yn Cyfarwyddo’r Swyddog Monitro i ddiwygio’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r newidiadau sydd raid wrthynt er mwyn sicrhau bod y Cyfansoddiad yn gyson â Rheoliadau 2014 fel y manylir ar y rheini yn yr adroddiad. Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud newidiadau i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog)(Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006) o ganlyniad i newidiadau a gyflwynwyd gan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

 

13.2    Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ynglŷn â’r uchod.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith.

14.

Amseriad Cyfarfodydd y Cyngor pdf eicon PDF 109 KB

  Adrodd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin wedi penderfynu fel a ganlyn :-

 

“PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor fod Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn paratoi cynigion ar gyfer 2015 ymlaen yn cynnwys opsiynau i gynnal cyfarfodydd ar ddiwrnodau penodol yn ystod yr wythnos a bod cynrychiolydd o bob Grŵp yn cynorthwyo gyda’r broses hon.”

 

  Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro. .

Cofnodion:

14.1  Adroddwyd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn dilyn ystyried yr uchod yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2014 wedi penderfynu fel a ganlyn:

 

Argymell i’r Cyngor bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro yn paratoi cynigion o 2015 ymlaen yn cynnwys opsiynau i gynnal cyfarfodydd ar ddyddiau penodol o’r wythnos, a bod cynrychiolydd ar gyfer pob grŵp yn helpu gyda’r broses hon”.

 

14.2  Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro yng nghyswllt yr uchod.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yng nghyswllt yr uchod.