Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod PDF 59 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi, 2013. (PAPUR ‘A’) Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi, 2013, ar yr amod bod y geiriau ‘Change 2’ yn cael eu newid i ‘Newid2’ yn y fersiwn Gymraeg o eitem 8 y cofnodion.
YN CODI
8 – Rheolau Gweithdrefn Cynllunio
Dywedodd Pennaeth Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro fod y newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio a gefnogwyd gan y Pwyllgor Safonau wedi cael eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir ar 5 Rhagfyr, 2013.
14 – Canlyniad Ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i gŵyn yn erbyn Cynghorydd Cymuned
Awgrymodd yr Is-Gadeirydd y dylai Aelodau eraill o’r Pwyllgor Safonau gymryd rhan mewn achosion tebyg yn y dyfodol.
|
|
Prosiect Rheoli Cwynion - Adolygiad Archwilio Mewnol PDF 186 KB Ystyried a thrafod y Dalen Cynllunio Tasg Archwilio – i’w gyflwyno gan y Swyddog Monitro (Papur Saesneg yn unig). (PAPUR ‘B’) Cofnodion: Cyflwynwyd – Taflen Cynllunio Tasgau Archwilio mewn perthynas â’r modd y mae’r Cyngor yn cydymffurfio gyda’i Bolisi Pryderon a Chwynion Corfforaethol ac a ydyw o ganlyniad yn delio’n effeithiol gyda phryderon a chwynion ei gwsmeriaid.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Gwahodd y Rheolwr Archwilio i fynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau. |
|
Datganiadau diddordeb mewn cyfarfodydd a'r cofrestr anrhegion a lletygarwch PDF 153 KB Adroddiad gan y Rheolwr We Corfforaethol ynglyn â chynnydd o ran galluogi Aelodau i gwblhau’r cofrestrau ar lein. (PAPUR ‘C’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Reolydd y We a Gwybodaeth Gorfforaethol ar y cynnydd a wnaed o ran galluogi Aelodau Etholedig i gwblhau’r cofrestrau statudol uchod ar-lein.
Dygwyd sylw at y ffaith fod Aelodau Etholedig yn parhau i gofrestru rhoddion a lletygarwch ar gofrestr bapur yn hytrach nag ar y fersiwn ohoni sydd ar gael ar-lein.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU :
(1) Bod llythyr yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor Safonau’n atgoffa’r Aelodau Etholedig y dylent gofrestru eu rhoddion a’u lletygarwch ar-lein.
(2) Atgoffa’r Aelodau na fydd modd iddynt, yn y man, gofrestru eu rhoddion a lletygarwch ar bapur.
(3) Bod Rheolydd y We a Gwybodaeth Gorfforaethol yn cyflwyno diweddariad i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
|
|
Gweddarlledu/Presenoldeb o bell a chefnogaeth TGCh i Gynghorau Tref a Chymuned PDF 207 KB I dderbyn adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. (PAPUR ‘CH’) Cofnodion: Cyflwynwyd – diweddariad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd ar yr uchod.
Nodwyd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi argymell y dylid symud ymlaen i weddarlledu cyfarfodydd am gyfnod arbrofol o 12 mis er mwyn defnyddio’r arian a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r Cyngor llawn, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn rhan o’r cynllun peilot hwn.
Codwyd cwestiynau ynghylch ymarferoldeb mynychu cyfarfodydd o’r Cyngor o bell. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog bod angen gwneud gwaith pellach i ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer mynychu o bell a’i fod yn gobeithio adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Safonau wedyn.
Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor Safonau bryderon ynghylch yr anogaeth a roddir i rai o’r Cynghorau Tref/Cymuned i ddefnyddio’r arian i’w cynorthwyo i sefydlu gwefannau. Dywedodd y Swyddog y cysylltwyd gydag Un Llais Cymru yn gofyn i’r corff hwnnw gynorthwyo Cynghorau Tref a Chymuned i symud ymlaen gyda’r arian sydd ar gael.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Bod Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn cyflwyno diweddariad i gyfarfod o’r Pwyllgor Safonau yn y dyfodol. |
|
Cwynion am ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 95 KB 6A Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru i Gynghorwyr Sir. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. (PAPUR ‘D’)
6B Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru i Gynghorwyr Tref a Chymuned. Er gwybodaeth ac unrhyw gwestiynau. (PAPUR ‘DD’)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6A Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru mewn perthynas â chwynion ynghylch Cynghorwyr Sir.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Diweddariad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar unrhyw ddatblygiadau i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
6B Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru mewn perthynas â chwynion ynghylch Cynghorwyr Cynghorau Tref a Chymuned.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Diweddariad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar unrhyw ddatblygiadau i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau. |
|
Penderfyniadau Panel Arfarnu PDF 770 KB Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer er gwybodaeth a Phapur gan y Cyfreithiwr – Llywodraethu Corfforaethol ar benderfyniadau diweddar. (PAPUR ‘E’) Cofnodion: Cyflwynwyd er gwybodaeth - adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer a Phapur gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) yn cynnwys crynodeb o benderfyniadau a wnaed gan y Panel Dyfarnu rhwng 1 Ebrill, 2011 ac 1 Tachwedd, 2013.
Cyflwynodd y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) adroddiad cefndir ar ganlyniadau’r achosion a ddygwyd gerbron y Panel Dyfarnu. Ym marn Aelodau’r Pwyllgor, mae Angen Canllawiau Cyffredinol ynghylch Dedfrydau/Cosbau wrth ddelio gyda chwynion.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU :
· Gofyn i’r Fforwm Pwyllgorau Safonau ychwanegu at ei raglen:-
(1) Yr ymarferoldeb o gysylltu gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cymru yn gofyn am gael canllawiau wedi eu teilwrio’n arbennig ar gyfer y Pwyllgor Safonau (yn seiliedig at ganllawiau Panel Dyfarnu Cymru) er mwyn penderfynu ar y cosbau - byddai hynny o fudd iddynt pan yn trafod cwynion; ac
(2) Ymarferoldeb gofyn i’r Ombwdsmon ychwanegu at ei wefan, benderfyniadau a wnaed gan Bwyllgorau Safonau ac y cafwyd gwybod amdanynt.
· Diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
|
|
Cyn-Gofrestru Diddordebau - Diweddariadau gan Gynghorwyr Sir PDF 109 KB I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer. (PAPUR ‘F’) Cofnodion: Cyflwynwyd – er gwybodaeth, ddiweddariad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ynghylch cofrestru diddordebau ymlaen llaw.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Dim
|
|
Cynghorau Tref a Chymuned - Diweddariad ar y côd ymddygiad ac ymrwymiadau PDF 109 KB I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer. (PAPUR ‘FF’) Cofnodion: Cyflwynwyd er gwybodaeth – ddiweddariad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ynglŷn â’r uchod. Nodwyd bod yr holl Gynghorau Tref/Cymuned bellach wedi ymateb ac wedi darparu copïau o’u Codau Ymddygiad ac Ymrwymiadau.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Dim
|
|
Hyfforddiant i Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned - Hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad PDF 103 KB 10A I dderbyn adroddiad gan yr Uwch Swyddog Datblygu ar y sefyllfa gyfredol o ran hyfforddiant i Aelodau gan gynnwys cynnydd ar yr Adroddiadau Blynyddol Aelodau. (PAPUR ‘G’ – I DDILYN)
10B I dderbyn adroddiad gan yr Uwch Swyddog Datblygu ar yr hyfforddiant a gynigwyd i’r Cynghorau Tref a Chymuned a’r adborth a dderbyniwyd. (PAPUR ‘NG’ – I DDILYN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10A Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Uwch Swyddog Datblygu AD ar y sefyllfa gyfredol o ran hyfforddiant aelodau gan gynnwys cynnydd a wnaed o ran y Cynllun Blynyddol ar gyfer Datblygu Aelodau.
Dywedodd y Swyddog y trefnwyd cyfanswm o 34 o sesiynau ffurfiol rhwng mis Mai a mis Tachwedd ar gyfer Aelodau Etholedig ers eu hethol ac roedd manylion am y rhain wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Caiff manylion am yr holl hyfforddiant a gynigiwyd/a fynychwyd eu cofnodi ar ffeiliau personol unigol yr Aelodau Etholedig. Fel rhan o’r ymrwymiad i gefnogi Aelodau Etholedig, mae hyfforddiant ar Adolygiadau Datblygiad Personol wedi cael ei gyflwyno a chafwyd hyfforddiant i gefnogi hyn ym mis Hydref gyda’r nod o gwblhau’r adolygiadau’n fuan ym mis Ionawr 2014.
Ynogystal, rhoes y Swyddog adroddiad ar gais drafft a gyflwynwyd yn ddiweddar ar gyfer Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau. Cafodd y cais ymateb boddhaol gan CLlLC er bod angen mwy o wybodaeth. Rhoddir sylw i’r materion hyn a bydd cais pellach yn cael ei anfon at CLlLC yn y man.
Awgrymwyd y dylai Aelodau’r Pwyllgor Safonau, fel rhan o’u swyddogaeth o ddadansoddi Datganiadau Diddordeb yr Aelodau, fonitro, ar yr un pryd, lefel presenoldeb Aelodau Etholedig mewn sesiynau hyfforddiant.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Bydd Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau’n dadansoddi lefelau presenoldeb Aelodau mewn Sesiynau Hyfforddiant fel rhan o’u swyddogaeth o ran dadansoddi Datganiadau o Ddiddordeb.
10B Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Uwch Swyddog Datblygu ar yr hyfforddiant a gynigiwyd i Gynghorau Tref a Chymuned a’r atborth a gafwyd.
Rhoes y Swyddog adroddiad ar yr hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad a ddarparwyd gan Un Llais Cymru. Roedd yr atborth ysgrifenedig a gafwyd gan y sawl a oedd yn bresennol yn gadarnhaol yn gyffredinol ond mynegwyd pryderon gan aelodau’r Pwyllgor Safonau ynglŷn â’r modd y cyflwynwyd y sesiynau hyfforddi.
Awgrymwyd y gellid ystyried darparu rhywfaint o hyfforddiant mewnol ar gyfer Clercod y Cynghorau Cymuned ar y Côd Ymddygiad.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU :
· Ystyried cynnal hyfforddiant mewnol ar gyfer Clercod Cynghorau Cymuned ar y Côd Ymddygiad.
· Bod yr Uwch Swyddog Datblygu’n anfon atborth ysgrifenedig at Un Llais Cymru ynghylch ansawdd yr hyfforddiant a ddarparwyd gan y corff hwnnw.
|
|
Cynghorau Tref a Chymuned - Hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad PDF 179 KB I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro ar anghenion hyfforddiant yn y dyfodol yn dilyn y sesiynau ym mis Medi. (PAPUR ‘H’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth – Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro ar yr uchod.
Dywedodd y Swyddog ei bod yn amlwg bod diffyg cefnogaeth i’r sesiynau hyfforddi ar y Côd Ymddygiad oherwydd ychydig iawn fynychodd y 3 sesiwn a drefnwyd ar gyfer mis Medi. Nodwyd nad oedd Cyngor Tref Caergybi wedi’u cynnwys yn y sesiynau gan eu bod wedi gwneud eu trefniadau eu hunain gydag Un Llais Cymru.
Awgrymwyd y dylai’r Pwyllgor Safonau gymryd y camau isod:-
· Anfon llythyr ar ran y Pwyllgor yn diolch i’r Cynghorau Tref/Cymuned hynny a anfonodd 3 neu fwy o gynrychiolwyr i’r sesiwn hyfforddiant. Yn ychwanegol at hynny, gofyn iddynt rannu’r wybodaeth gydag aelodau eraill, yn enwedig ynghylch datganiadau o ddiddordeb a’r angen i’w cofrestru mewn cyfarfodydd ac achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu’r neges ynghylch presenoldeb y we.
· Anfon llythyr at y Cynghorau hynny a anfonodd rai cynrychiolwyr gan ddiolch iddynt am fynychu’r hyfforddiant ond i fynegi siom nad oeddynt wedi cymryd yr holl lefydd a oedd wedi eu neilltuo ar eu cyfer. Yn ychwanegol at hynny, gofyn iddynt rannu’r wybodaeth gydag aelodau eraill, yn enwedig ynghylch datganiadau o ddiddordeb a’r angen i’w cofrestru mewn cyfarfodydd ac achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu’r neges ynghylch presenoldeb y we.
· Anfon llythyr at y 13 Cyngor nad oeddynt wedi anfon unrhyw gynrychiolwyr i’r sesiynau hyfforddi i egluro’r canlyniadau posibl pe ceir cwyn. Yn ychwanegol at hynny, gofyn i’r Swyddogion ysgrifennu at yr Aelodau Lleol perthnasol yn mynegi pryder am y diffyg presenoldeb.
· Y tri llythyr i gynnwys cais eu bod yn cael eu cynnwys ar y rhaglen, eu trafod a’u cofnodi a bod y Pwyllgor Safonau’n derbyn cadarnhad ysgrifenedig
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a’r argymhellion a nodir uchod.
GWEITHREDU :
· Bod yr argymhellion uchod yn cael eu gweithredu; · Argymell fod cynrychiolydd o Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau yn mynychu Cyngor Tref Caergybi fel sylwedydd yn ystod y sesiwn hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad; · Y bydd y sesiynau hyfforddiant nesaf sydd wedi eu trefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd yn canolbwyntio yn bennaf ar hyfforddi Clercod y Cynghorau Cymuned ar y Côd Ymddygiad.
|
|
Adolygiad o'r Cofrestrau PDF 338 KB I dderbyn adroddiad ac arweiniad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ac i drafod yr adolygiad blynyddol o’r cofrestrau. (PAPUR ‘I’) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Gyfreithwraig – Llywodraethu Corfforaethol mewn perthynas ag adolygiad blynyddol y Pwyllgor Safonau o’r cofrestrau.
Dywedodd y Swyddog y bwriedir i bob aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau adolygu’r diddordebau a gofrestrwyd ymlaen llaw, y datganiadau a wnaed mewn cyfarfodydd a’r datganiadau o Roddion a Lletygarwch gan 6 Aelod Etholedig.
Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn y byddai’n fanteisiol pe gellid cysylltu gyda’r Aelodau Etholedig drwy e-bost i gael eglurhad ynglŷn ag unrhyw ymholiadau.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU :
· Cymeradwyo’r llythyr a oedd wedi ei amgáu fel Atodiad 2 i’r adroddiad; · Fod pob Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn adolygu manylion 6 Aelod Etholedig ar y cofrestrau; · Cynnal yr adolygiad rhwng diwedd Ionawr a diwedd Chwefror 2014 ac adrodd yn ôl ar y canfyddiadau i’r Gyfreithwraig – Llywodraethu Corfforaethol er mwyn caniatáu amser i lunio adroddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau ar 12 Mawrth, 2014.
|
|
Ymgynghoriad y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol PDF 389 KB I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro ynghlyn a chanlyniad yr ymgynghoriad a drafodwyd yn y cyfarfod ym mis Medi. (PAPUR ‘L’)
Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro ar ganlyniad yr ymgynghoriad a drafodwyd yn y cyfarfod ym mis Medi mewn perthynas â thaliadau i Aelodau Cyfetholedig Awdurdodau Lleol.
PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
GWEITHREDU: Dim
|