Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Capasiti ac Adnoddau ar gyfer Newid Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwraig.
(Mae pob aelod o’r Cyngor wedi cael gwahoddiad i fod yn bresennol am y drafodaeth ar y mater hwn). Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn nodi’r manylion am y capasiti ychwanegol y rhagwelir y bydd y Cyngor ei angen i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r Cynllun Trawsnewid ac sydd i’w ariannu o’r gyllideb cost newid. Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’w gymeradwyo’n wreiddiol i gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2013.
Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb byr ar gefndir y mater gan ddweud fod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 21 Hydref wedi gohirio ystyried yr adroddiad er mwyn caniatáu i’r mater gael ei ystyried a’i sgriwtineiddio gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
Aeth y Dirprwy Brif Weithredwr ymlaen i roi cyflwyniad gweledol i’r Pwyllgor yn darparu gwybodaeth gefndirol ynglŷn â’r Cynllun Trawsnewid a’r amserlenni ynglŷn ag ef; yr heriau wrth sicrhau trawsnewid yn y meysydd gwasanaeth a’r rhwystrau i newid yn y gorffennol; ymgysylltu â chyfathrebu gyda staff, y swyddogaethau trawsnewid ac yn benodol beth yr oedd disgwyl i’r capasiti ychwanegol arfaethedig ei gyflawni a’i ddarparu mewn perthynas â ffrydiau gwaith blaenoriaeth a nodwyd. Yn ei chyflwyniad, rhoes y Dirprwy Brif Weithredwr sylw penodol i’r pwyntiau canlynol –
· Y pedair swydd arfaethedig - Rheolwr Prosiect Moderneiddio Addysg; Rheolwr Trawsnewid Strategol Gofal Cymdeithasol; Rheolwr Trawsnewid Asedau a Swyddog Llywodraethu a Busnes gyda chyfnodau yn amrywio o 18 mis i 3 blynedd (3 blynedd yn achos y ddwy swydd gyntaf a 18 mis yn achos y ddwy swydd olaf). · Roedd y swyddi yn darparu cyfleon datblygu i staff cyfredol a gellid eu llenwi ar sail secondiadau mewnol. · Bydd deiliaid y swyddi yn gweithio fel tîm ac yn darparu cefnogaeth i brosiectau eraill a thrwy hynny yn darparu tîm o unigolion a fedr ddarparu a chefnogi capasiti yn ôl yr angen ar draws y Rhaglen Trawsnewid. · Bydd y swyddi yn lleihau’r angen am ymgynghorwyr allanol a’r costau sy’n gysylltiedig â hynny. · Fe all y swydd Rheolwr Prosiect Addysg gael ei gyllido o’r Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif. · Mae cyfanswm y costau a amcangyfrifir o ddarparu’r capasiti ychwanegol wedi ei adolygu i lawr i £204k yn dilyn arfarnu’r swyddi.
Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ac Aelodau eraill o’r Cyngor oedd wedi eu gwahodd i’r cyfarfod ofyn cwestiynau i’r swyddogion ynglŷn â’r cynnig a’r hyn yr oedd yn ei olygu ac yn y drafodaeth gynhwysfawr a ddilynodd, roedd y canlynol ymysg y prif faterion yr edrychwyd i gael eglurhad arnynt -
· Y diffyg ymgysylltu ac ymgynghori ymlaen llaw gyda’r Aelodau Sgriwtini newydd ynglŷn â’r Rhaglen a’r cynlluniau Trawsnewid gyda chyfeiriad arbennig at y cynnig am gapasiti ychwanegol. · Cyflymder y newid. Cwestiynodd rhai o’r Aelodau gyflymder y newid a’i effeithiau posibl o ran ychwanegu at y pwysau ar staff a chael effaith ar forâl y staff tra roedd aelodau eraill yn barnu nad oedd cyflymder y newid dros amser yn ddigonol i fynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau mewn rhai meysydd gwasanaeth. Nodwyd bod angen gweithredu newid mewn ffordd sensitif ac roedd hynny cyn bwysiced â gweithredu fel busnes. · Oni ddylid bod wedi gweithredu cynllun diswyddiadau gorfodol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |