Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518
Rhif. | Eitem |
---|---|
Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac estynnodd groeso arbennig i Sioned Rowe fel y Swyddog Sgriwtini newydd ac i'r Cynghorydd Peter Rogers a oedd yn dychwelyd i fusnes y Cyngor yn dilyn cyfnod o adferiad ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ben-glin. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrnyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 312 KB Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforoaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2019 a chawsant eu cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Cychwynnol ar gyfer y Gyllideb Refeniw PDF 1022 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion: Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu'r cyd-destun i’r broses ar gyfer gosod cyllideb 2020/21. ‘Roedd Atodiad 1 yn cynnwys adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ynghylch y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2020/21 a'r ffactorau sy'n cael effaith arni.
Eglurodd y Cadeirydd fod y broses o osod cyllideb ar gyfer 2020/21 wedi ei gohirio oherwydd yr Etholiad Cyffredinol ym mis Rhagfyr, 2019 ac o ganlyniad, y cyhoeddiad hwyrach nag arfer am y setliad dros dro i lywodraeth leol.
Crynhowyd y sefyllfa gan yr Aelod Portffolio Cyllid trwy ddweud bod y sefyllfa gyllidebol ar gyfer 2020/21 yn well na'r disgwyl oherwydd y setliad dros dro uwch a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019, a bod hynny i'w groesawu, ond er gwaethaf y setliad uwch, mae'r amgylchiadau ariannol yn gyffredinol yn parhau i fod yn heriol . Mae cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi gostwng ar ôl cael eu defnyddio i gwrdd â phwysau costau mewn meysydd lle mae’r galw’n parhau i gynyddu, gan gynnwys Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Addysg, sy’n awgrymu y gallai bod angen adolygu a / neu ailalinio cyllidebau sylfaenol y gwasanaethau hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagdybio cynnydd o 7.1% yn lefelau’r Dreth Gyngor, ac er bod y setliad yn well, nid yw ond cymaint â’r cymorth ariannol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2012/13 mewn termau real. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod felly’n cynghori cymryd agwedd ddarbodus o ran gwneud argymhellion mewn perthynas â Chyllideb Refeniw 2020/21.
Aeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 â’r Pwyllgor trwy bob un o'r adrannau yn yr adroddiad yn Atodiad 1 ar y gyllideb refeniw arfaethedig ar gyfer 2020 / 21. Amlygwyd ac ymhelaethwyd ar y prif bwyntiau canlynol –
• Y prif ragdybiaethau yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2019. Mae'r rhain wedi'u cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo'r gyllideb ddisymud ar gyfer 2020/21. • Cyfrifo cyllideb ddisymud ar gyfer 2020/21 fel man cychwyn ar gyfer y broses gosod cyllideb. Mae'r gyllideb ddisymud yn gyllideb sy'n darparu adnoddau i ddarparu gwasanaethau ar lefelau 2019/20 ond sydd wedi'i diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau y gwyddys amdanynt sydd y tu hwnt i reolaeth y gwasanaethau (newidiadau yr ymrwymwyd iddynt) ac i adlewyrchu'r costau yn 2020/21. • Y newidiadau yr ymrwymwyd iddynt a'u heffaith o ran addasiadau a wnaed i'r gyllideb fel y nodir ym mharagraffau 3.1 i 3.10 o'r adroddiad. • Newidiadau a wnaed i gyllidebau wrth gefn (a adeiladwyd i mewn i’r gyllideb i gwrdd â chostau tymor penodol, risgiau posib neu ddigwyddiadau annisgwyl) fel y dangosir yn Nhabl 1 Atodiad 1. Mae'r sefyllfa ariannol well yn 2020/21 yn caniatáu i'r Cyngor ostwng y Gronfa Wrth Gefn ar gyfer Cyflogau a Graddio gan na ddisgwylir y bydd yn rhaid gwneud gostyngiadau sylweddol i niferoedd staff yn 2020/21. • Costau staffio a'u heffeithiau ar y gyllideb. Mae ansicrwydd ynghylch y dyfarniad cyflog o fis ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Cychwynnol ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf PDF 1019 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion: Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn ymgorffori adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2020/21.
Wrth dynnu sylw at y prif bwyntiau ac ymhelaethu arnynt fe wnaeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 –
• Gyfeirio at y sgôp cyfyngedig i ystyried amrywiol opsiynau ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf o’i gymharu â'r Gyllideb Refeniw. • Amlinellu egwyddorion y Strategaeth Gyfalaf a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Chwefror, 2019 ac y mae'r Gyllideb Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2020/21 yn seiliedig arni (paragraff 2.2 yr adroddiad). • Egluro o ran ariannu'r rhaglen gyfalaf (Tabl 1 yr adroddiad) fod y ffigyrau ar gyfer y setliad drafft i Lywodraeth Leol yn cynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol a'r Benthyca â Chymorth; er bod grantiau cyfalaf at ddibenion penodol wedi cynyddu, mae lefel y cyllid o dan y ddau bennawd hyn wedi aros yn weddol gyson dros nifer o flynyddoedd sy’n cyfyngu’r opsiynau sydd ar gael i'r Cyngor wario’r cyfalaf. • Cadarnhau dyrannu £500k o'r Gronfa Gyfalaf (gan adael balans a ragwelir o £640k) i dalu am unrhyw waith cyfalaf brys a allai godi yn ystod y flwyddyn a / neu i ddarparu cyllid cyfatebol pe bai'r angen yn codi. • Rhoi manylion am yr asedau cyfredol y bydd angen eu hamnewid / adnewyddu yn unol â’r dull a amlinellir yn y strategaeth gyfalaf, a'r symiau a neilltuwyd iddynt yn unol ag adran 4.2 a Thabl 3 yr adroddiad, gan ychwanegu y bydd y Cyngor yn ei chael hi'n anodd cyflawni hyd yn oed y gwaith mwyaf sylfaenol i gynnal ei asedau cyfredol oni bai bod y Grant Cyfalaf yn cynyddu yn y dyfodol. • Crynhoi'r bidiau unwaith ac am byth eraill am gyllid ychwanegol a gymeradwywyd gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth i'w cynnwys yn rhaglen gyfalaf 2020/21 ar ôl iddynt gael eu hasesu gan y Tîm Cyllid trwy ddefnyddio mecanwaith sgorio'r Strategaeth Gyfalaf (Tabl 4 yr adroddiad – argymhellir dyrannu cyfanswm o £2.174m) • Cyfeirio at nifer o brosiectau eraill a nodwyd gan y broses gynnig nad oes angen cyllid arnynt yn 2020/21 ond y gall bod angen eu hariannu yn 2021/22 neu y tu hwnt fel y nodir yn adran 5.4 o'r adroddiad. • Egluro’r sefyllfa o ran rhaglen gyfalaf Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a rhaglen gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai.
Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, o gyfarfod y Panel ar 9 Ionawr, 2020 lle rhoddwyd sylw manwl i gynigion cychwynnol cyllideb 2020/21. Roedd y Panel wedi argymell y dylid cefnogi'r cynigion canlynol ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2020/21 -
• Adnewyddu / Amnewid asedau £5.158m • Prosiectau cyfalaf unwaith ac am byth newydd £1.924m • Cronfa Gwella Cyfleusterau Hamdden £0.250m • Ysgolion yr 21ain Ganrif £9.039m • Cyfrif Refeniw Tai £17.138m
Cyfanswm Gwariant Newydd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Panel Sgriwtini Cyllid - Adroddiad Cynnydd PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad cynnydd ar waith y Panel Sgriwtini Cyllid dros y 12 mis diwethaf hyd at fis Rhagfyr, 2019.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid yr adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor.
Ar ôl ystyried yr adroddiad, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol nodi'r canlynol –
• Y cynnydd a wnaed hyd yma gyda gwaith y Panel Sgriwtini Cyllid, o ran cyflawni ei raglen waith a mesur effaith a gwerth ychwanegol. • Mae'n ymddangos bod prosesau sy'n ymwneud â monitro’r gyllideb ar gyfer 2019/20 yn addas i’r diben. • Y rhaglen datblygu sgriwtini ariannol parhaus ar gyfer aelodau'r Panel sy'n cael ei darparu gan CIPFA Cymru. • Bod y Panel wedi tynnu sylw'r Pwyllgor at ei bryder parhaus ynghylch pwysau ar gyllidebau gwasanaethau a arweinir gan y galw (gwasanaethau cymdeithasol ac addysg) a'i fod yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos a bod ganddo drefniadau ar waith i sicrhau deialog reolaidd gyda Chyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth i esbonio'r sefyllfa ariannol yn y ddau wasanaeth ac effaith mesurau lliniaru sydd ar waith i reoli gorwariant. Mae'r Pwyllgor yn nodi ymhellach y bydd y Panel yn parhau i adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau wrth i'r sefyllfa esblygu. • Trefniadau i adrodd i'r Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor Gwaith bob tri mis ar y cynnydd a wnaed gan y Panel o ran gweithredu’r flaenraglen waith, gan gyflwyno trefniadau i adrodd yn amlach os oes risg benodol i fynd i'r afael â hi.
|
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd blaenraglen waith y Pwyllgor i’w hystyried.
Penderfynwyd –
• Cytuno fersiwn gyfredol y flaenraglen waith ar gyfer 2019/20 a • Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma gyda gweithredu’r flaenraglen waith. |