Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w gadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Chwefror, 2024. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2024 yn gywir.
|
|
Cynllun Strategol Taclo Tlodi 2024-2029 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Trechu Tlodi 2024-2029 i'r Pwyllgor ei ystyried a chraffu arno.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, yn absenoldeb yr Arweinydd, fod y Cynllun Strategol Trechu Tlodi yn gynllun allweddol, ei fod wedi cael ei gydnabod fel blaenoriaeth a’i fod hefyd yn cael ei lywio gan Gynllun y Cyngor 2023-2028. Mae'r Cynllun yn darparu cyfeiriad clir ac yn cynnwys gweledigaeth a meysydd blaenoriaeth allweddol er mwyn mynd i'r afael â thlodi dros y pum mlynedd nesaf, a'r camau y mae'r Cyngor yn bwriadu eu cymryd gyda phartneriaid allanol i sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn effeithiol wrth fynd i'r afael â thlodi. Wrth ddatblygu'r Cynllun Strategol hwn, rhoddwyd ystyriaeth i sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor, lle mae cyllid craidd ac arian grant yn gostwng yn barhaus, ynghyd â’r galw cynyddol am wasanaethau. Mae'r Cyngor wedi ymgysylltu â swyddogion mewnol ar bob lefel, ac amryw randdeiliaid wrth baratoi'r Cynllun.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Cynllun yn rhoi cyfarwyddyd clir ynghylch sut y gall y Cyngor gynorthwyo trigolion Ynys Môn i geisio lleihau'r tlodi y maent yn ei wynebu gan eu cyfeirio at gyrff allanol eraill sy'n cynnig cymorth. Trefnwyd sesiwn ymgysylltu gyda sefydliadau partner gyda chynrychiolwyr o'r trydydd sector, Fforwm Pobl Hŷn, Fforwm Plant a Phobl Ifanc a chynrychiolwyr o holl wasanaethau'r Cyngor i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn parhau i fod yn gynaliadwy. Er mwyn hwyluso'r cynllun, mae dangosfwrdd costau byw newydd gael ei lansio i ddarparu data cadarn, integredig sy'n seiliedig ar dystiolaeth fel y gall y Cyngor wneud penderfyniadau cywir a gwybodus wrth fynd i'r afael â thlodi ar Ynys Môn ac i fesur faint o fwyd sy'n cael ei ddosbarthu o'r Banciau Bwyd a faint o bobl sy'n ymgysylltu â gwasanaethau oherwydd eu hanghenion.
Wrth ystyried y Cynllun Strategol Trechu Tlodi, cododd y Pwyllgor y materion canlynol:–
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y gwnaed y penderfyniad gan y Cyngor i fabwysiadu'r diffiniad o dlodi - 'Mae tlodi’n golygu bod heb ddigon o adnoddau a chyfleoedd i ddiwallu anghenion sylfaenol, yn cynnwys anghenion yn gysylltiedig â bod yn rhan o gymdeithas'. Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol eu bod wedi mabwysiadu diffiniad Sefydliad Bevan. Dywedodd nad oes un diffiniad penodol o dlodi gan y gall tlodi fod yn gysylltiedig â diffyg profiadau mewn gwahanol ffyrdd gan wahanol bobl sy'n effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau. Gall ei union natur ddibynnu ar amgylchiadau unigol, o beidio â chael digon o arian i dalu am hanfodion fel bwyd, dillad, tai, gwresogi, i ddiffyg ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael. · Codwyd cwestiynau ynghylch pwy yr ymgynghorwyd â nhw wrth baratoi'r Cynllun Strategol a ph’un ai yr ystyrir fod rhai rhanddeiliaid heb gymryd rhan. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Rhaglen fod y broses o baratoi'r Cynllun wedi ei chynnal ym mis Tachwedd, 2023 gyda phartneriaethau trydydd parti a rhanddeiliaid eraill i fesur blaenoriaethau cychwynnol i fynd i'r afael â ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Diweddariad Diogelu Corfforaethol Strategol PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Cofnodion:
Dywedodd Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion fod atal a diogelu wedi'i restru fel un o egwyddorion cyffredinol allweddol y Cyngor yng Nghynllun Corfforaethol 2023-2028. Pwysleisiodd fod diogelu yn flaenoriaeth i bawb ym mhob gwasanaeth o fewn y Cyngor.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y ffocws wedi bod ar gynllun gweithredu diogelu a sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i ganolbwyntio ar hyfforddiant gorfodol i holl staff y Cyngor. Cynhaliwyd wythnos Ddiogelu lwyddiannus ym mis Tachwedd 2023 - mae'r manylion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Nododd fod y cynnydd amlwg mewn achosion o gam-drin domestig ar Ynys Môn wedi cael ei drafod yn y Bwrdd Diogelu ac o ganlyniad uwchgyfeiriwyd y mater i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Pennaeth Gwasanaethau Tai a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn a Gwynedd. Nodwyd nad yw hon yn sefyllfa sy’n unigryw i Ynys Môn gan fod awdurdodau lleol eraill yn sylwi ar gynnydd mewn achosion o gam-drin domestig. Bydd Strategaeth Diogelu Corfforaethol newydd yn cael ei datblygu dros y misoedd nesaf ynghyd â blaen raglen waith a bydd Cylch Gorchwyl y Grwpiau Strategol a Gweithredu hefyd yn cael ei adolygu.
Wrth ystyried y Diweddariad Diogelu Corfforaethol Strategol cododd y Pwyllgor y materion canlynol:–
· Gofynnwyd am eglurder ynghylch pa fesurau sydd ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion hyfforddiant diogelu corfforaethol a sut mae'n cael ei fonitro ac yn enwedig mewn ysgolion. Mynegwyd hefyd y dylid cynnwys data hyfforddi Aelodau Etholedig yn yr adroddiad hefyd. Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y data'n dangos bod presenoldeb yn y sesiynau gorfodol ar ddiogelwch yn is na'r disgwyl mewn rhai gwasanaethau. Nododd fod trosiant staff yn ddiweddar mewn rhai gwasanaethau a bod rhai staff heb fynediad at liniaduron i dderbyn hyfforddiant o'r fath. Dywedodd y bydd trefniadau’n cael eu gwneud i wahodd yr unigolion hyn i Swyddfeydd y Cyngor i dderbyn yr hyfforddiant diogelu gorfodol maes o law. Cynhelir trafodaethau gyda Phenaethiaid Ysgolion i sicrhau bod y cwrs hyfforddiant diogelu gorfodol yn cael ei gwblhau gan bob aelod o staff. · Cyfeiriwyd at y ffaith fod yr adroddiad yn dangos cynnydd amlwg mewn achosion o gam-drin domestig ar Ynys Môn. Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae'r Awdurdod ar hyn o bryd yn gwbl gymwys i ddelio â'r sefyllfa a rôl Heddlu Gogledd Cymru o ran y cynnydd mewn achosion o gam-drin domestig. Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, er bod cynnydd mewn achosion o gam-drin domestig, nid oes adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Nododd fod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Gorwel sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys pobl sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a digartrefedd. Cynhelir trafodaethau hefyd ar draws gwasanaethau'r Cyngor ac yn enwedig yr Adran Gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu data am achosion o gam-drin domestig. Mae staff yn y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd yn cefnogi plant sy'n byw mewn cartrefi lle mae ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cronfa Ffyniant Bro - Caergybi PDF 869 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio ac Datblygu Economaidd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Rhaglen Ffyniant Bro ar gyfer Caergybi i'r Pwyllgor ei hystyried a chraffu arni.
Dywedodd Aelod Portffolio Gwasanaeth Oedolion, yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd mai pwrpas y Gronfa Ffyniant Bro (LUF), sy’n gronfa gyfalaf yn unig, yw buddsoddi mewn seilwaith economaidd-gymdeithasol craidd sy'n gwella bywydau pobl ledled y DU. Lansiwyd y gronfa gwerth £4.8 biliwn ym mis Mawrth 2021 ac mae'n canolbwyntio ar 3 maes allweddol i helpu i adfywio canol trefi a'r stryd fawr: prosiectau trafnidiaeth lleol, ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Penderfynodd y Cyngor Sir fod cais yn canolbwyntio ar 'dreftadaeth; diwylliant a threflun Caergybi yn hytrach nag anghenion adfywio ehangach yr Ynys yn debygol o fod yn fwy apelgar i Lywodraeth y DU. Ni ellir tanbrisio maint a chymhlethdod y gwaith a wnaed i ddatblygu'r cais. Arweiniodd hyn at gydweithio sylweddol a dwys gan y Cyngor Sir gyda phartneriaid o Gaergybi.
Adroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y bydd yr amserlen ar gyfer cwblhau'r prosiectau erbyn diwedd mis Mawrth 2025 yng Nghaergybi yn heriol, fodd bynnag, mae'r Cyngor yn bwriadu gofyn am estyniad i'r amserlen sy'n debyg i brosiectau LUF eraill yn y rhanbarth. Mae chwyddiant wedi dylanwadu ar y rhaglen gyda chostau cynyddol, a phwysleisiodd ei bod yn bwysig bod yn realistig o ran yr hyn y gellir ei gyflawni o fewn yr amserlen a'r cyllid sydd ar gael. At hyn, dywedodd fod prosiectau pwysig ac amlwg yng Nghaergybi wedi dechrau, a bod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar brosiect Canolfan Ucheldre. Dywedodd hefyd bod modd gweld nodau a manylion pob prosiect yng Nghaergybi ar-lein sy'n rhoi gwybodaeth i'r gymuned leol am y rhaglen. Mae'r Tîm Ffyniant Bro wedi’i leoli yng Nghaergybi ac mae aelodau’r tîm ar gael i'r gymuned ymgysylltu â nhw a chynnig gwybodaeth yn ôl yr angen.
Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y materion canlynol:–
· Gofynnwyd i ba raddau y mae'r gyllideb yn ddigonol i gyflwyno'r rhaglen gyfan ar sail yr amserlen a bennwyd. Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Rhaglen Ffyniant Bro fod gofyn i'r prosiectau ddilyn proses gaffael y Cyngor. Bu’n rhaid ail-hysbysebu rhai tendrau sy’n golygu bod yr amserlen wedi’i hymestyn. Yn dilyn y broses gaffael, mae'n amlwg nad yw'r cyllid sydd ar gael yn ddigon ar gyfer yr holl brosiectau a nodwyd yng Nghaergybi ac mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda'r sefydliadau partner i ystyried amserlen a chostau pob prosiect unigol. Codwyd cwestiynau pellach ynghylch a yw hyn wedi arwain at fethu â chwblhau rhai o'r prosiectau ac a fydd y Bwrdd yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn cyfran o'r cyllid yn unig. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr y bydd angen addasu nifer y prosiectau o fewn y rhaglen ac y gallai hyn fod â goblygiadau gan fod gwaith yn cael ei wneud gyda sefydliadau allanol. Yn sgil chwyddiant, mae'r costau wedi codi o fewn y prosiectau ac mae'n fater sensitif ar hyn o ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb - 2022/2023 PDF 746 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog 151. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb Blynyddol – 2022/2023 i'r Pwyllgor ei ystyried a chraffu arno.
Dywedodd Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor, fod yn rhaid i'r Cyngor, o dan Reoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011 Deddf Cydraddoldeb 2010, gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb. Prif bwrpas yr adroddiad yw dangos sut mae'r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau cydraddoldeb a rhaid cyhoeddi'r adroddiad erbyn 31 Mawrth yn y flwyddyn yn dilyn y cyfnod adrodd.
Adroddodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg mai Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2022/2023 yw'r adroddiad olaf yn ei ffurf bresennol a bydd trefniadau newydd yn cael eu sefydlu i gyd-fynd â'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-2028.
Wrth ystyried yr adroddiad, cododd y Pwyllgor y materion canlynol:–
· Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y cyflawnodd y Cyngor ei amcanion a'i flaenoriaethau cydraddoldeb yn llawn ar gyfer 2020-2024. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-2024 yn cynnwys 20 dangosydd o'r hyn y dylid disgwyl ei weld pan fydd camau gweithredu wedi'u cwblhau. Nododd fod 19 o'r dangosyddion wedi'u cwblhau a bod un dangosydd, sy'n destun pryder, sef casglu gwybodaeth am nodweddion cydraddoldeb ymhlith gweithwyr y Cyngor. At hyn, dywedodd fod angen cryfhau cydraddoldeb o fewn y gweithlu ac ar draws yr Ynys hefyd gyda'r rhan fwyaf o flaenoriaethau cydraddoldeb yn trosglwyddo i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-2028. Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod y Cynllun Cydraddoldeb presennol wedi'i gymeradwyo yn 2020 a bod sawl ffactor, fel yr argyfwng costau byw, yn effeithio ar y gallu i gyflawni rhai o'r amcanion o fewn y cynllun. · Codwyd cwestiynau ynghylch y risg i'r Cyngor fod bylchau data yn dal i fodoli yn y wybodaeth am gydraddoldeb ynghylch gweithwyr y Cyngor. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod casglu gwybodaeth ynglŷn â gweithlu'r Cyngor yn heriol gan ei fod yn dibynnu ar barodrwydd staff i rannu gwybodaeth yn wirfoddol. Mae casglu gwybodaeth gan weithwyr newydd yn dasg haws gan fod disgwyl iddynt rannu gwybodaeth am gydraddoldeb pan fyddant yn llenwi ffurflenni cais a hefyd yn ystod y broses sefydlu. Fel rhan o'r ffactorau risg, dywedodd fod angen casglu cymaint o wybodaeth â phosibl gan y gweithwyr er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gyflogwr teg ac yn gallu cynnig cyfle cyfartal i'r staff. Dywedodd hefyd ei bod yn bwysig cyfleu i'r gweithwyr na wneir unrhyw ddefnydd amhriodol o'r wybodaeth a gaiff ei rhannu. Fodd bynnag, os nad yw'r wybodaeth gan weithwyr yn cael ei rhannu, gallai'r Cyngor fod yn rhagfarnu yn ddiarwybod. Mae data o ansawdd yn hanfodol er mwyn sicrhau cydraddoldeb o fewn y gweithlu a bod y Cyngor yn gyflogwr cynhwysol ac apelgar. · Cyfeiriwyd at y polisi gweithio hybrid a chodwyd cwestiynau ynghylch yr effaith ar staff o ystyried y feirniadaeth a’r sylwadau amhriodol/negyddol a welwyd ar gyfryngau cymdeithasol oherwydd bod staff yn gweithio gartref. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2023/2024 PDF 429 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn nodi Blaen Raglen Waith Ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio 2023/24 i’w ystyried.
PENDERFYNWYD:-
· Cytuno ar y fersiwn ddiweddaraf o’r blaen raglen waith ar gyfer 2023/2024; · Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith.
|