Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 14eg Ionawr, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau fel uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ann Griffith ddiddordeb personol yng nghyswllt Eitem 6.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 237 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 27 Tachwedd, 2014.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar

27 Tachwedd 2014.

4.

Trefniadau Sgriwtini y Bwrdd Gwasanaeth Lleol ar y Cyd Arfaethedig pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad ar y cyd gan yr Uwch Reolydd Partneriaethau, Gwynedd a Môn, Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Gwynedd a’r Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini bod adroddiad ar y cyd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a CfPS yn 2010 o’r enwSgriwtineiddio  Partneriaethau Aml-Asiantaetholyn amlinellu rhai o’r gwersi a ddysgwyd o’r broses o ddatblygu trefniadau sgriwtini Byrddau Gwasanaeth Lleol ac roeddent yn nodi  rhai pwyntiau pwysig i’w cadw mewn cof pan yn datblygu trefniadau. Roedd y rhain wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Er mwyn bod mewn sefyllfa i gynghori aelodau ar yr opsiynau posibl ar gyfer sgriwtineiddio Bwrdd Gwasanaeth Lleol Gwynedd a Môn, roedd Grŵp Prosiect Tasg a Gorffen Aml-Asiantaethol wedi ei sefydlu.  Roedd yr aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a Swyddogion Sgriwtini o’r ddau Gyngor.  Er mwyn cael agwedd annibynnol fe wahoddwyd y Ganolfan ar gyfer Sgriwtini Cyhoeddus i wneud sylwadau ynglŷn â’r ystod o opsiynau y gellir eu hystyried gan aelodau etholedig y ddau Awdurdod

Lleol.  Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen hefyd wedi ceisio sicrhau safbwyntiau Medrwn Môn a Mantell Gwynedd fel sefydliadau ambarél oedd yn cynrychioli diddordebau’r trydydd sector. Yng ngoleuni ei drafodaethau, roedd Grŵp Tasg a Gorffen Aml- Asiantaethol y Ganolfan ar gyfer Sgriwtini Cyhoeddus yn cynnig bod tri opsiwn i’r Aelodau Etholedig eu hystyried sef :-

 

Opsiwn A – Cadw trefniadau’r Pwyllgorau Sgriwtini yng Nghyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd fel y maent ar hyn o bryd.

Opsiwn B – Sefydlu Panel Sgriwtini ar y cyd ar gyfer Bwrdd Gwasanaeth Lleol Gwynedd a Môn.

Opsiwn C – Sefydlu Pwyllgor Sgriwtini ar y cyd ar gyfer Bwrdd Gwasanaeth Lleol Gwynedd a Môn.

 

Er bod i bob opsiwn ei fanteision a’i anfanteision ei hun, roedd y Grŵp Tasg a Gorffen Aml-Asiantaethol yn unfrydol y dylid cynnig Opsiwn B fel yr opsiwn a ffefrir i’w ystyried gan Aelodau Etholedig Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn.

 

Gan ddibynnu ar ba opsiwn a gâi gefnogaeth gan Aelodau Etholedig y ddau Gyngor, y cam nesaf fyddai i’r Grŵp Tasg a Gorffen Aml-Asiantaethol ail-ymgynnull er mwyn ystyried trefniadau ymarferol fel aelodaeth y fforwm sgriwtini ar y cyd, ei weithrediad a threfniadau hyfforddi, trefn y cyfarfodydd a lleoliad ac ati.  Byddai’r Ganolfan ar gyfer Sgriwtini Cyhoeddus yn parhau i gynnig cefnogaeth a mentora.

 

Dywedodd y Swyddogion y byddai angen enwebu 3 Aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar Banel Sgriwtini’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol.

 

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

  Roedd yr Aelodau yn cefnogi Opsiwn B sef sefydlu Panel Sgriwtini ar y cyd ar gyfer BGLl Gwynedd a Môn gyda’r aelodaeth oedd wedi ei nodi yn Atodiad 2. Fodd bynnag, roeddid hefyd yn ystyried y dylai diddordebau Lleisiau Cymunedol Gwynedd a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor (ARCF) Adolygiad a Gwerthusiad Archwiliad Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cymuned.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Ms. Vicky Poole, Cyfarwyddwr Rhanbarthol (Gogledd Cymru) AGGCC a Mr. Mark Roberts o AGGCC i’r cyfarfod.

 

CyflwynwydAdroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymuned) mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymuned) bod Fframwaith Adrodd Blynyddol y Cyngor yn fframwaith a gytunwyd arno yng Nghymru er mwyn gwerthuso, mewn dull cyhoeddus tryloyw, berfformiad y swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol ym mhob Awdurdod Lleol. Roedd y llythyr yn cydnabod y cynnydd a wnaed gan yr Awdurdod tra’n amlygu’r angen i gynnal yr ymrwymiad a’r cynnydd gyda’r newidiadau oedd eu hangen.  Roedd AGCC yn cyfeirio at y risgiau tebygol parhaol a nodwyd gan yr Arolygiaeth.

 

Gwneir cyfeiriad penodol at faterion capasiti a’r her i awdurdod bychan wrth geisio rhoi sylw i faint y newid sydd ei angen wrth drawsnewid gwasanaethau gofal cymdeithasol.  Mae gwelliannau perfformiad wedi’u gweld yn y Gwasanaethau Plant ond mae risgiau’n parhau o ystyried pa mor amhrofiadol yw’r gweithlu a’r strwythur rheoli.  Roedd y llythyr hefyd yn nodi nad oes ond ychydig iawn o gyfeiriad at y camau sydd eu hangen gan yr Awdurdod mewn paratoad ar gyfer gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Ebrill 2016).  Mewn ymateb, dywedir bod hyn yn ffurfio rhan o raglen weithredu genedlaethol a bod yr awdurdod wedi ymgysylltu’n briodol yn y rhaglen honno.  Yn ychwanegol at hyn, mae’r rhaglen waith a fabwysiadwyd gan y Cyngor a’r Gwasanaeth yn un sy’n cyd- fynd â dyheadau ac egwyddorion y Ddeddf. Roedd y llythyr yn cydnabod y pwysau ariannol a’r heriau a wynebir gan y Cyngor wrth gwrdd â’i gyfrifoldebau o ran darparu gwasanaeth a chynllunio statudol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn gofyn am roi ffocws parhaol ar ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol tra’n bwrw ymlaen â’r rhaglen newid sydd ei hangen ac sy’n codi o’r rhaglen drawsnewid.  Roedd y camau oedd yn codi o’r llythyr wedi’u hymgorffori o fewn y prosesau busnes a rhaglenni blaenoriaethol o fewn Rhaglen Drawsnewid y Cyngor a chynlluniau busnes y gwasanaethau unigol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod yn credu bod yr hyfforddiant mewn materion Gwasanaethau Cymdeithasol yn benodol i Aelodau newydd ac i Aelodau cyfredol yn hanfodol i amlygu blaenoriaethau a phwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yn credu bod y seminar i Aelodau Etholedig yng nghyswllt Cartrefi Preswyl yn un hynod o werthfawr.

 

Dywedodd Mr. Mark Roberts (AGGCC) bod yr Adroddiad Gwerthuso Adroddiad ar gyfer 2013/14 ynghlwm wrth adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Nododd bod y Cyngor Sir yn y cyfnod cynnar o weithredu rhaglen drawsnewid uchelgeisiol i’r gwasanaethau oedolion a phlant.  Mae’r rhain yn rhaglenni datblygu a newid arwyddocaol i Gyngor bychan ac y mae cyflymder y newid yn cael ei lesteirio gan ddiffyg capasiti. Ar yr un pryd, mae Cyngor newydd wedi ei ethol ac yr oedd trydedd ran ohonynt yn Aelodau a benodwyd o’r newydd.  Mae hyn hefyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diogelwch Corfforaethol (Plant) pdf eicon PDF 430 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Plant.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant mewn perthynas â’r uchod.

 

Cafwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant yn dweud bod angen i’r Awdurdod Lleol gynnal hunanwerthusiad yn flynyddol o’i drefniadau i ddiogelu plant ac i adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol. Roedd Atodiad 1 yn cynnwys yr adroddiad hwnnw.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r amcanion cytunedig, y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hyn a meysydd pellach oedd angen sylw.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o gyfraniad yr Awdurdod at y cyd-destun aml-asiantaethol ac at waith y Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol, y Grŵp Cyflawni Lleol ac Is-Grwpiau Rhanbarthol cysylltiedig.  Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Plant yn dymuno iddo gael ei gofnodi bod Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi trafod yr adroddiad yn ei gyfarfod oedd wedi ei gynnal yn gynharach heddiw.  Roedd y Bwrdd yn croesawu’r adroddiad a bydd yn ystyried yr argymhellion ynddo.

 

Roedd yr Awdurdod wedi cyflawni gwelliannau yn y Gwasanaethau Plant ac yn y Gwasanaethau Addysg, ac ar hyn o bryd, mae’n symud i gyfnod o ddatblygu a gwella trefniadau diogelu yn gyffredinol. Mae gan y Cyngor Sir Fwrdd Diogelu Corfforaethol a’i rôl yw sicrhau bod dyletswyddau allweddol yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion bregus yn cael eu cyflawni’n ddigonol. Mae polisi’r Awdurdod Lleol ar ddiogelu a’r cynllun gweithredu cysylltiedig wedi eu mabwysiadu.  Er y cafwyd oedi o ran y cynnydd ar y Cynllun Gweithredu yn erbyn y dyddiadau targed gwreiddiol, mae rhai camau allweddol wedi’u cyflawni.  Roedd y camau allweddol wedi’u rhestru yn yr adroddiad i’r Pwyllgor.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth ymhellach bod nifer o drefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan y sefydliad wasanaethau ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau diogelugwerthusiad blynyddol o bob ysgol gan ddefnyddio cerdyn adrodd diogelu safonol ac ar lefel Gwasanaethau Plant, ceir adroddiad yn ôl ar y dangosyddion perfformiad statudol. Mae angen i hyn gael ei ymestyn ar sail gorfforaethol.  Felly, ar gyfer 2015/16, bydd pob Pennaeth Gwasanaeth yn gosod amcanion a mesurau diogelu ac, yn ogystal, byddir yn sefydlu Cerdyn Sgorio Diogelu Corfforaethol.

Bydd cyflawni amcanion y polisi a’r Cynllun Gweithredu Diogelu o gymorth i gyflwyno sgriwtini mwy effeithiol o ran materion diogelu.

 

Y prif faterion a godwyd gan Aelodau :-

 

  Dywedodd y Deilydd Cysgodol ei bod yn falch o ddeall bod y Cyngor Sir ar flaen y gad gyda’r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Dywedodd y byddai sesiwn briffio fer i Aelodau Etholedig o fudd.

  Holwyd cwestiynau ynglŷn â throsiant staff o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn arbennig yn y Gwasanaethau Plant.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant bod trosiant y staff yn y gwasanaeth wedi sefydlogi dros y flwyddyn ddiwethaf (13/14).

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

  Bod y Pwyllgor hwn yn nodi’r trefniadau corfforaethol i weithredu ei Bolisi Diogelu.

  Bod y Pwyllgor yn nodi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Diweddariad gan y Cadeirydd neu Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd bod Fforwm Sgriwtini Agored gyda Chadeiryddion ac Is- Gadeiryddion Sgriwtini wedi ei gynnal ar 18 Rhagfyr 2014.  Roedd dau o’r Cynghorau Cymuned wedi mynegi pa mor bwysig oedd bod y Cyngor yn cyfathrebu’n well gyda Chynghorau Tref a Chymuned. Y pryder a leisiwyd oedd nad oedd Cynghorau Tref a Chymuned bob amser yn gwybod beth oedd rhai o’r penderfyniadau oedd i’w cymryd gan y Pwyllgor Gwaith.

8.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 498 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Rhaglen Waith ddrafft.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini bod cais wedi ei wneud i’r eitemau canlynol gael eu cynnwys ar Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer y cyfarfod nesaf :-

 

Diogelwch Cymunedol

Uwchraddio’r briffordd i Wylfa Newydd – Contract y Cyngor Sir a Horizon UK.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith ddrafft a chymeradwyo’r ddwy eitem ychwanegol ar Raglen y cyfarfod nesaf.