Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Polisi Cynllunio. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Ieuan Williams fel Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio.
|
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion:
Dim wedi’u derbyn.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2024. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir.
|
|
|
Adroddiad Monitro Blynyddol er cymeradwyaeth a diweddaru ar ymdeithiad y Cytundeb Cyflawni Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yr adroddiad yn cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol sydd wedi’i gyflwyno er mwyn cael cytundeb arno cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac i ddiweddaru aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cytundeb Cyflawni a’r Cynllun Cyfraniad Cymunedol. Dywedodd fod y Cynllun Datblygu Lleol angen ei fonitro’n flynyddol, a rhaid cyflwyno adroddiad yn crynhoi bob cyfnod monitro i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Yr Adroddiad Monitro Blynyddol yw’r adroddiad cyntaf gan yr Awdurdod hwn ar ôl i’r gwaith gyda Chyngor Gwynedd ddod i ben. Mae’r adroddiadau’n adlewyrchu pa mor effeithiol yw polisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol, ac mae hefyd yn ddarn pwysig o dystiolaeth ar gyfer adolygu’r Cynllun. Aeth ymlaen i ddweud bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhestru 9 prif ganfyddiad, a chyfeirir atynt o fewn yr adroddiad. Cyfeiriodd yn benodol at:-
· Y caniatâd a roddwyd ar gyfer 178 uned preswyl newydd yn ystod 2023/2024; · Cwblhau 53 o unedau tai preswyl yn 2023/2024, sy’n 30% o’r gwaith a gwblhawyd eleni; · Nodi bod 4747 o unedau wedi’u cwblhau yn ardal y Cynllun rhwng y dyddiad sylfaenol (2011) a 2022/23, ond mae’r taflwybr yn nodi ffigwr o 5663 uned. · Mae 59% o’r unedau tai a ganiatawyd yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol o fewn Canolfannau Gwasanaeth Trefol. Mae 11.2% o unedau wedi’u caniatáu o fewn Canolfannau Gwasanaeth Trefol, gyda 29.8% pellach wedi’u caniatáu mewn Pentrefi, Clystyrau a Chefn Gwlad Agored. · Caniatawyd 1 safle eithriad tai fforddiadwy (8 uned) yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol, caniatawyd 2 annedd menter gwledig ac 1 annedd fforddiadwy mewn cefn gwlad agored. · Gwrthodwyd 5 allan o 8 apêl i PEDW yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol hwn a chaniatawyd y 3 arall. Golyga hyn bod y gyfradd gwrthod apêl yn 63%.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Newid Hinsawdd fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi profi’n effeithiol. Dywedodd, wrth ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol yr Awdurdod, y bwriad yw adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud ac y bydd y Cynllun yn fuddiol i drigolion Ynys Môn.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones ei fod yn gwerthfawrogi’r gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud i baratoi’r adroddiad, ond dywedodd nad oedd Aelodau wedi cael digon o amser i ddarllen y ddogfen a gwneud sylwadau. Argymhellodd y byddai angen cyfarfod anffurfiol er mwyn galluogi Aelodau i graffu ar y ddogfen. Dywedodd y Cadeirydd bod cyfarfod anffurfiol wedi’i gynnal yr wythnos ddiwethaf pan gyflwynwyd yr adroddiad hwn i Aelodau’r Pwyllgor. Dywedodd bod rhaid cyflwyno’r adroddiad i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y penawdau o fewn yr adroddiad ynghylch Cymunedau Diogel, Iechyd a Llesiant, yn ogystal â’r Cymunedau Cymraeg Bywiog. Dywedodd eu bod yn rhoi ystyriaeth i ddyfodol cymunedau lleol a sut mae’r boblogaeth yn newid yn y cymunedau hyn, yn ogystal â’r ffaith bod pobl sy’n Gymraeg iaith gyntaf yn symud i ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |