Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – 11LPA921A/AD/CC – Maes Parcio, Mynydd Parys

 

12.2 – 12C266K – ABC Power Marine, Porth Lafan, Biwmares

 

12.3 – 19C484K – Trinity Marine, Porth y Felin, Caergybi

 

12.4 – 20LPA971/CC – Bonc y Môr, Cemaes

 

12.5 – 20LPA971A/AD/CC – Cemaes Greenery, Cemaes

 

12.6 – 20LPA971B/AD/CC – Bonc y Môr, Cemaes

 

12.7 – 20LPA973/AD/CC – Maes ParcioYmddiriedolaeth Genedlaethol, Llanbadrig

 

12.8 – 20LPA973/CC – Towyn Llanbadrig, Llanbadrig

 

12.9 – 31LPA977/AD/CC – Maes Parcio Twr Marcwis, Llanfairpwll

 

12.10 – 35LPA976/AD/CC – Trwyn y Penryn, Penmon

 

12.11 – 39C381D – Clwb Criced Porthaethwy, Porthaethwy

 

12.12 – 40LPA899B/AD/CC – Traeth Lligwy, Moelfre

 

12.13 – 43LPA974/AD/CC – Edrychfa Gwylwyr y Glannau, Rhoscolyn

 

12.14 – 46C520 – Gadlys, Ffordd Penrallt, Trearddur

Cofnodion:

12.1 11LPA921A/AD/CC – Cais i leoli panel dehongli yn y Maes Parcio, Mynydd Parys.

 

Cyfeiriwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio mai’r cais uchod yw’r cyntaf o amryw o geisiadau yn rhan 12 y rhaglen y cyfarfod hwn am banelau dehongli.  Mae’r rhain wedi eu cyflwyno i sylw'r Pwyllgor gan mai’r Cyngor yw’r Ymgeisydd.  Pwrpas panelau o’r fath yw dangos manylion atyniadau lleol a darparu gwybodaeth am ddaeareg yr ardal ble bwriedir eu gosod.  Mae daeareg Ynys Môn yn cael ei chydnabod fel un sy’n arwyddocaol trwy’r holl fyd ac mae’r Ynys yn cael ei hadnabod fel Parc Geo Môn.  Mae’r datblygiadau hyn felly yn cyfrannu tuag at hyrwyddo’r agwedd hon, a bwriad y panelau yw creu profiadau addysgiadol a diddorol i gerddwyr.  Bydd pob panel yn cynnwys gwybodaeth am yr ardal leol ynghyd â manylion am ddaeareg yr ardal.  Gyda datblygiadau o’r fath, y ddau brif factor cynllunio y mae angen rhoi sylw iddynt yw effaith ar fwynderau a diogelwch priffyrdd.  Mae Swyddogion wedi asesu’r ffactorau hyn ar gyfer pob un o’r ceisiadau ac maent yn fodlon na fydd unrhyw broblemau yn codi o ganlyniad.  Argymhelliad o ganiatáu oedd hwn felly.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  12C266K – Cais cynlluniol ôl-weithredol ar gyfer addasu dyluniad y to ac addasiadau cyffredinol i Unedau 2 i 5 ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Porth Lafan, Biwmares.

 

Cyflwynwyd y cais i sylw’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn yw perchennog y tir.

 

Cafwyd eglurhad ar gyd-destun y cais gan y Rheolydd Datblygu Cynllunio a chyfeiriwyd at ganiatâd cynllunio 12C266C a roddwyd i ailddatblygu’r safle cyfan, gan gynnwys dymchwel y siediau cychod cyfredol a chodi rhai newydd, ynghyd ag estyniadau i siop yr orsaf petrol.  Yr hun sydd wedi digwydd yn yr achos hwn yw bod dyluniad, uchder a deunyddiau toeau Unedau 2 i 5 yn wahanol i’r hyn a gymeradwywyd dan ganiatâd cynllunio 12C266C. Maent yn is ac o wahanol liw i’r cynllun a gymeradwywyd yn wreiddiol ond mae’r Swyddogion yn ystyried eu bod yn dderbyniol gan eu bod yn cydymffurfio gyda’r polisïau cynllunio perthnasol ac yn well na’r hyn a gymeradwywyd yn y lle cyntaf.  Roedd yr argymhelliad felly yn un o gymeradwyo.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar weithred amrywio ar gyfer y cytundeb cyfreithiol a gwblhawyd mewn perthynas â chais cynllunio 12C266C a’r amod a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.3 19C484K – Cais i ddileu amodau (15), (16), (17), (18), (19), (20), (21), (22) a (23) ar gais cynllunio 19C484A i ganiatáu porth a chroesfan ar y pafin ar gyfer defnydd achlysurol a cherbydau argyfwng yn Trinity Marine, Yr Iard Gychod a’r Blaen Traeth, Porth y Felin, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i sylw’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion i’w benderfynu oherwydd ei fod ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno.

 

Esboniodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn i ddileu amodau ar y caniatâd cynllunio amlinellol gwreiddiol i ganiatáu creu mynedfa a phalmant ar gyfer defnydd achlysurol.  Roedd y marina wedi bod yn gweithredu am 10 mlynedd ac ystyrir nad yw’r fynedfa, fel y cafodd ei chynnig yn wreiddiol, yn angenrheidiol ar gyfer gweithrediad y safle o ddydd i ddydd.  Dywedodd y Swyddog na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau lleol i’r cynnig ac nad oes unrhyw faterion priffyrdd wedi codi chwaith.  Roedd y Swyddog felly yn argymell caniatáu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  20LPA971/CC – Cais llawn ar gyfer gwaith gwella amgylcheddol ar dir yn Bonc y Môr, Cemaes.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai Ynys Môn yw’r ymgeisydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r bwriad gyda’r cais uchod yw lleoli 9 plinth carreg ac un bwrdd picnic a mainc ar hyd rhan o lwybr arfordirol Ynys Môn.  Bydd y plinth cerrig  wedi ei wneud o wahanol fathau o gerrig o wahanol oesoedd i adlewyrchu hanes daearegol yr Ynys.  Roedd Swyddogion yn credu bod y cynnig yn un cadarnhaol ac yn ddatblygiad addysgiadol ac am argymell ei gymeradwyo.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

12.5 20LPA971A/AD/CC – Cais llawn i leoli panel gwybodaeth ar y Grîn yng Nhemaes.

 

Daw’r cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai cais gan yr Awdurdod Lleol ydoedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6 20LPA971B/AD/CC – Cais i leoli panel dehongli ar dir yn Bonc y Môr, Cemaes.

 

Yr Awdurdod Lleol oedd yn gwneud y cais a dyna paham y daethpwyd ag ef gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo; eiliodd y Cynghorydd Victor Hughes y cynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7 20LPA973/AD/CC - Cais i leoli panel dehongli ar dir ym Maes Parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llanbadrig.

 

 Roedd y cais hwn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Awdurdod Lleol oedd yn gwneud y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymheliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad.

 

12.8 20LPA973/CC – Cais llawn i wneud gwaith gwella amgylcheddol yn Nhowyn Llanbadrig, Llanbadrig.

 

Daw’r cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn sydd yn gwneud y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

 

 

12.9 31LPA977/AD/CC – Cais i leoli panel dehongli  ar dir ym maes parcio Twr Marcwis, Llanfairpwll.

 

Daw’r cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Awdurdod Lleol sy’n gwneud y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R.O.Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.10 35LPA976/AD/CC – Cais i leoli panel dehongli  ger maes parcio Trwyn y Penrhyn, Penmon, LL58 8RN

 

Roedd y cais hwn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais ydoedd gan yr Awdurdod Lleol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Lewis Davies sylw at y ffaith mai cyfeiriad cywir lleoliad y cais yw Aberlleiniog – nodwyd y cywiriad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.O.Jones bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Victor Hughes

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ni chymerodd y Cynghorydd Lewis Dewis fel Aelod Lleol unrhyw rhan yn y bleidlais ar y cais hwn).

 

12.11 39C81D – Creu maes parcio ar dir ger Clwb Criced Porthaethwy, Porthaethwy. 

 

Roedd y cais hwn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr John Simpson, un oedd yn gwrthwynebu’r cynnig i gyflwyno ei safbwyntiau ar y mater.

 

Eglurodd Mr Simpson ei fod ef a’i gymdogion yn byw ar y lôn gul sydd yn rhoi’r unig fynediad i fynwent Porthaethwy ac sydd yn llawer rhy gul i’r traffig sy’n mynd ar ei hyd ar hyn o bryd.  Am lawer o’i hyd nid yw’r ffordd ond rhyw 4 i 5m o led ac mae lle cul iawn lle nad yw ond 3.8m o led.  Mae hyn yn rhy gul i geir allu pasio yn ddiogel felly mae’n rhaid iddynt fagio yn ôl i lawr i’r A5 neu fynd ar y palmant sydd ei hun yn 0.9m o led.  Gydag angladdau mawr, fe all 30-40 o geir ddefnyddio’r lôn gul sy’n golygu traffig trwm yn y fynedfa ac fe allai’r sefyllfa fod yn waeth o lawr wrth i draffig ddod o’r maes parcio arfaethedig pan fo angladd a gêm griced yn cyd-fynd.  Mae problem culni’r ffordd yn cael ei gydnabod gan yr Adran Briffyrdd yn yr adroddiad ysgrifenedig ond nid yw’n cael ei weld fel rheswm dros wrthod y cais oherwydd y bydd defnyddwyr y maes parcio yn cyrraedd ac yn gadael ar yn un pryd.  Nododd Mr Simpson y bydd yna rai amseroedd pryd y bydd angladd yn dod i ben wrth i bobl gyrraedd am gêm griced a hynny’n achosi dryswch llwyr ac roedd am ofyn a oedd arolwg iawn o’r sefyllfa draffig wedi ei wneud gan yr Adran Briffyrdd, a hwythau wedi cymryd agwedd gweddol anfeirniadol tuag at y cynnig.  Byddai’n cwestiynu ymhellach a wnaed asesiad cywir o’r risgiau o ddamwain pan fydd traffig trwm, yn arbennig yng nghyswllt cerddwyr.  Trwy fod y ffordd gul bellach wedi ei dynodi’n llwybr 8 Beicio Cenedlaethol, bydd cynnydd yn llif y beicwyr fydd yn ymuno â cherddwyr ar y llwybr sy’n cael ei rannu ym mhen y ffordd.  Hwn hefyd fyddai’r lle mynd i mewn i’r maes parcio gyda cheir yn gorfod croesi llwybr y beiciau ac yn creu perygl, ac nid yw’n ymddangos bod hyn wedi ei gymryd i ystyriaeth. 

 

Dywedodd Mr Simpson bod y fynedfa arfaethedig i’r maes parcio yn hynod o anfoddhaol ac fe allai fod yn beryglus ac roedd am ofyn pam na allai anghenion parcio’r clwb gael eu bodloni yn fwy effeithiol drwy ehangu’r maes parcio presennol ym mhen uchaf y cae gyda defnydd mwy eang o faes parcio Ysgol David Hughes.  Pe bai maes parcio newydd yn hollol hanfodol, yna un dewis arall gwell fyddai agor ail fynedfa o Ffordd Pentraeth drwy ymestyn y ffordd yn Stad Tŷ Mawr.  Byddai hyn yn rhoi llwybr un ffordd llawer saffach i’r fynwent a’r maes parcio yn dod allan ar yr A5 i lawr y lon gul.  Dywedodd Mr Simpson bod yr opsiynau hyn yn cael eu cyflwyno gan gredu y dylid ymchwilio iddynt a chwblhau arolygon ac asesiadau risg priodol cyn bod y Pwyllgor Cynllunio yn cymeradwyo adeiladu maes parcio newydd. 

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor i Mr John Simpson.

 

Gofynnwyd wedyn i Mr Dan Surgey annerch y Pwyllgor o blaid y cynnig.

 

Roedd Mr Surgey yn siarad fel Is-Gadeirydd Clwb Criced Porthaethwy ac eglurodd bod y clwb ar hyn o bryd yn rhedeg tri thîm yng nghynghrair criced Gogledd Cymru a thimau iau ac o dan 7 oed, 9, 11 a 13 i fyny.  Mae’r tîm cyntaf ar hyn o bryd yn eithaf llwyddiannus yng nghynghrair criced gogledd Cymru a hynny’n golygu ei fod yn cael torf eithaf da ar brynhawn Sadyrnau.  Mae’r maes parcio presennol tuag at ben uchaf y cae yn medru cymryd 25 o geir felly ar ddydd Sadwrn pan fydd yna 11 chwaraewr o’r tîm cartref a 4 neu 5 car o’r tîm sy’n ymweld fe all fod yn eithaf cyfyng.  Roedd y clwb yn cael problemau gyda phobl yn dod i ymweld â chefnogwyr a oedd yn parcio ar ddreif Tyn y Cae sy’n arwain i’r clwb criced.  Cafwyd trafodaethau gyda gofalwr Ysgol David Hughes ac y mae yntau yn garedig yn caniatáu i faes parcio’r ysgol gael ei ddefnyddio ond ewyllys da yn unig yw hyn.  Felly be benderfynodd Pwyllgor y Clwb y byddai’n well ganddo ddibynnu arno’i hun ac mai’r cynllun gorau i’r Clwb oedd ceisio datblygu’r cae tuag at waelod ardal y clwb.  Nid yw’r tir hwn ar hyn o bryd yn rhan o’r brydles a holwyd yr Adran Eiddo cyn dechrau’r broses a dywedodd, pe bai caniatâd i’w gael ar gyfer y maes parcio yna byddai’r cae yn cael ei ychwanegu i’r brydles.  Roedd cyfarfodydd hefyd wedi eu cynnal gyda Chyngor Tref Porthaethwy a’r Adran Eiddo ynglŷn â’r sefyllfa mewn perthynas â’r fynwent ym Mhorthaethwy.  Mae’r cae i’r gogledd o’r fynwent wedi ei nodi ar gyfer defnydd posibl yn y dyfodol i ymestyn y fynwent pan fydd angen hynny.  Cynnig y clwb i Gyngor Tref Porthaethwy oedd y byddai’n cael mynediad i faes parcio’r clwb pan fyddai angen hynny e.e. angladdau mawr a byddai hynny yn lliniaru ychydig o’r problemau gyda pharcio pan fo angladdau.

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau i Mr Surgey gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr adroddiad ysgrifenedig yn nodi’r prif fater sef pa mor dderbyniol oedd y maes parcio ceir newydd arfaethedig o safbwynt priffyrdd.  Ymgynghorwyd gyda’r Adran Priffyrdd ac nid yw’r Swyddogion Priffyrdd yn gweld unrhyw sail dros wrthod y cais.  Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, nid oedd yr Adain Ddraenio wedi rhoi ei ymateb i’r cais; mae’r Adain bellach wedi ymateb ac wedi gofyn am fwy o fanylion ynglŷn â’r dulliau o ddelio â dŵr wyneb ar y safle.  Aeth y Swyddog ymlaen i egluro mai’r bwriad yw wynebu’r maes parcio gyda graean ac os caiff y cais ei gymeradwyo fe fydd yna ffos gerrig ar y safle.  Er mwyn gallu delio gyda’r mater hwn, roedd Swyddogion yn bwriadu gosod amod ychwanegol yn gofyn am i’r materion hynny gael eu cytuno a’u cyflwyno cyn dechrau’r gwaith datblygu.  Roedd yr Adain Briffyrdd hefyd wedi gofyn am amod pellach yn cyfyngu defnydd y maes parcio i bwrpasau’r Clwb Criced yn bennaf.  Nid oes unrhyw wrthwynebiadau cynllunio i’r cynnig o safbwynt defnydd tir ac nid yw swyddogion cynllunio yn gweld unrhyw broblemau o ran ei effeithiau ar fwynderau – bwriedir gosod amod ynglŷn â thirlunio.  Felly nid oes unrhyw resymau cynllunio dros wrthod y cais.

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith am y tebygrwydd o sŵn traffig gai ei gynhyrchu gan lif traffig dwy ffordd o gyfeiriad y clwb criced yn hwyr yn y nos o ganlyniad i weithgareddau yn dilyn gemau criced fel oedd yn cael ei grybwyll yn rhai o’r gwrthwynebiadau a gofynnodd a oedd hyn wedi cael sylw ac ystyriaeth.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr adroddiad ysgrifenedig yn delio â mater y sŵn a fyddai’n codi o weithgareddau ar ôl gemau gyda gwrthwynebwyr yn teimlo y byddai’r sŵn o weithgareddau o’r fath ynghyd a sŵn traffig yn gwaethygu’r sefyllfa.  Dywedodd y Swyddog nad oedd hyn i raddau yn fater cynllunio ond ei bod yn bosibl rhoi amod ynglŷn ag oriau gweithredu’r maes parcio ar unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir ac y byddai hynny yn cael ei ystyried.

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith ymhellach a oedd unrhyw arolwg wedi ei wneud o dagfeydd traffig o ganlyniad i geir yn gadael y ffordd hon ac yn mynd ar yr A5.  Mae’n debyg y byddai adeiladu maes parcio yn debygol o wneud unrhyw broblemau sydd yna’n barod yn waeth ac o ystyried bod y lon yn gul mae yna fwy o debygrwydd y ceir damweiniau.  Roedd am geisio cael cadarnhad a oedd  unrhyw ymchwiliad wedi ei wneud i’r peryglon allai gael eu creu.

                                      

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) bod yr Adain Briffyrdd wedi edrych ar y cais mewn manylder ond nad oedd wedi gwneud arolwg o ran niferoedd y cerbydau fyddai’n defnyddio’r ffordd.  Yr oedd y Swyddog Priffyrdd wedi edrych ar gofnodion damweiniau a hynny wedi dangos nad oedd unrhyw hanes o ddamweiniau yn yr ardal.  Fel gyda phob lôn gul, mae yna risg ac fe aseswyd hyn gan y Swyddogion Priffyrdd a hefyd natur y ffordd a sŵn y traffig ar ei hyd ac fe bwyswyd yr ystyriaethau hyn yn erbyn y fantais o gael maes parcio ar gyfer defnydd traffig angladdau yn ogystal ac roedd y Swyddogion yn fodlon gyda’r cais.  Nid oes unrhyw dystiolaeth mewn cofnodion damweiniau sydd yn nodi unrhyw broblemau arbennig. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd R. Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig a chydag amodau ychwanegol mewn perthynas â chyflwyno a chytuno ar fanylion ynghylch draeniad cyn cychwyn y datblygiad; cyfyngu’r defnydd o’r maes parcio i’r Clwb Criced yn bennaf a chyfyngu ar oriau ei ddefnyddio.

 

12.12 40LPA899B/AD/CC – Cais i leoli panel dehongli  yn Nhraeth Llugwy, Moelfre.

 

Roedd y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Awdurdod Lleol oedd yn gwneud y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R.O.Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac fel eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.13  43LPA974/AD/CC – Cais i leoli panel dehongli  yng Ngwylfan Gwylwyr y Glannau, Rhoscolyn.

 

Roedd y cais yn cael ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Awdurdod Lleol oedd yn gwneud y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu.  Eiliwyd ef gan y Cynghorydd Ken Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.14 46C520 – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn ynghyd â chodi lefel y to i greu lle byw ar y llawr cyntaf a chreu balconi yn Gadlys, Ffordd Penrallt, Trearddur, LL65 2UG.

 

Roedd y cais wedi cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn yr Aelod Lleol.

 

Galwodd y Cadeirydd ar Mr Carl Bateman i annerch y Pwyllgor i gefnogi’r cais.

 

Dywedodd Mr Bateman ei fod ef a’i bartner wedi prynu’r eiddo ar ôl chwilio o gwmpas yr ardal am 2 flynedd.  Cawsant hyd i eiddo Gadlys ond gan sylweddoli y byddai angen gwneud llawer o waith adfer arno ac roeddynt yn teimlo y gallent wneud hynny a gwneud yr eiddo yn fwy deniadol.  Roeddynt yn credu na fyddai’r ychwanegiad i’r llawr cyntaf allan o gymeriad gyda’r stad leol yn arbennig gan fod y tŷ drws nesaf yn dŷ deulawr.  Eglurodd Mr Bateman ei fod ef a’i bartner yn dymuno treulio llawer o amser yn byw yn y tŷ ond nad ydynt eisiau digio pobl leol fydd yn gymdogion iddynt ac roeddynt felly yn barod i gymryd unrhyw gyngor i dawelu eu meddyliau.  Gyda chwech o blant yn y teulu, roedd angen eiddo mwy na’r cyffredin pan fo’r teulu gyda’i gilydd.  Pan luniwyd y cynlluniau roedd yr ystafelloedd ychwanegol yn cael eu dangos fel ystafelloedd cysgu ond mewn gwirionedd efallai mai ystafelloedd storio neu ystafelloedd chwarae fyddant - nid oedd unrhyw fwriad i awgrymu unrhyw beth mwy na hyn.  Edrychwyd hefyd ar y posibilrwydd o greu llofftydd yng ngwagle’r to ond teimlwyd bod hyn yn cyfyngu o ran lle.

 

Aeth Mr Bateman yn ei flaen i ddweud iddo gael gwybod am y gwrthwynebiadau yn lleol i’r cynnig ac roedd yn gallu gweld rhinweddau rhai o’r pwyntiau.  Yn dilyn hynny fe addaswyd y cynllun gwreiddiol i geisio cydweithredu gyda chymdogion i gael rhywbeth fyddai’n addas i’r ddwy ochr.  Yn dilyn siarad gyda rhai o’r cymdogion a hwythau’n lleisio pryderon am sŵn ac ati, roedd yn gobeithio bod hyn wedi mynd beth o’r ffordd i’w sicrhau o’r gwir fwriadau.  Roedd y cynlluniau yn dangos parcio ar y safle i 6 cherbyd ac fe wnaed hyn i dawelu unrhyw bryderon yn lleol am barcio ar y stryd - nid oedd yn credu am funud y byddai’n cael ei ddefnyddio i’w gapasiti llawn.  Pe bai’r eiddo yn cael ei ystyried ar gyfer defnydd masnachol rhyw dro yn y dyfodol, yna byddai hynny angen caniatâd cynllunio.  Nid dyma ei fwriad ef na’i bartner.

 

Ymgynghorwyd â’r Adran Cynllunio ynglŷn â’i fwriadau ef a’i bartner ac roedd yr adran yn gadarnhaol yn ei ymateb i ddechrau.  Dywedodd Mr Bateman bod gwaith datblygu tebyg wedi ei wneud yn yr ardal gyfagos ac felly roedd yn teimlo bod eu hestyniad arfaethedig hwy yn gweddu gyda’r eiddo arall ar hyd y ffordd.  Roedd i’w weld fel pe bai yna waith adeiladu yn digwydd yn barhaol i ddatblygu eiddo mawr sydd yn yr ardal.  Daeth Mr Bateman a’i gyflwyniad i derfyn drwy ategu ei ddymuniad na fyddai’n digio’r bobl leol ac y byddai’n fodlon derbyn unrhyw gyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans yn ei gapasiti fel Aelod Lleol bod yna nifer o faterion allweddol ynglŷn â’r cais ac i 10 llythyr gael eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais yn ei ffurf bresennol.  Roedd y Cyngor Cymuned hefyd yn gwrthwynebu ac roedd yr holl wrthwynebiadau yn seiliedig ar resymau safonol yn ymwneud ag uchder gormodol, gorddatblygu’r safle, gallai’r cynllun diwygiedig ddarparu dwy ystafell wely ychwanegol a hynny’n arwain at eiddo 11 ystafell wely.  Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod yn safle a gafodd ei anawsterau yn y gorffennol gyda’r ffordd heb ychwanegu’r datblygiad hwn.  Roedd yn credu na fyddai darparu 6 lle parcio yn ddigon i gyfarfod â gofynion eiddo 9 ystafell wely gyda’r posibilrwydd o gael 9 teulu ac roedd y cynnig yn llawer rhy fawr i’r ardal a byddai’n achosi problemau gyda golygfeydd a phobl yn gweld hynny fel rhywbeth yn tarfu ar eu cartrefi.  Cafwyd gwrthwynebiadau o 5 eiddo cyfagos ac efallai nad oeddynt wedi gweld y newidiadau newydd arfaethedig - roedd y Cynghorydd Evans felly yn teimlo y byddai’n well pe bai’r gwrthwynebwyr yn cael gweld copi o’r cynlluniau newydd.  Aeth ymlaen i awgrymu y dylid cael ymweliad safle oherwydd bod y newidiadau arfaethedig yn rhai mor fawr.  Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi’r sylwadau a wnaed gan yr ymgeisydd i’r graddau nad oedd eisiau gwrthdaro gyda’r bobl leol a’i fod yn barod i ystyried unrhyw gyngor.  Byddai ymweliad safle felly yn ffordd eithaf cyfeillgar o symud ymlaen gyda’r mater hwn sy’n achosi cymaint o bryder. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r cais oedd gerbron y Pwyllgor oedd cais i addasu ac ymestyn annedd er mwyn creu un annedd sengl ar y safle.  Fel yr oedd yr adroddiad yn dweud roedd yna wrthwynebiadau i’r cynnig ac roedd y cynlluniau wedi eu newid yn ôl gofyn y Swyddogion er mwyn ceisio dod dros rhai o’r gwrthwynebiadau a wnaed.  Dywedodd y Swyddog bod y cynnig o ran ei ddyluniad yn parchu cymeriad yr eiddo eraill o gwmpas; mae yna eiddo o wahanol ddyluniad a maint yn yr ardal ac felly nid oedd annedd arall fel yr un arfaethedig yn creu dim byd gwahanol yn yr ardal o gwmpas.  O ran yr effaith ar ddeiliad eiddo cyfagos, roedd Swyddogion wedi ystyried hyn yn ofalus iawn ac wedi cydnabod y posibilrwydd y byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar eiddo cyfagos drwy edrych drosodd.  Ystyrir felly bod angen gosod amod ar unrhyw ganiatâd i godi sgrinio ar hyd terfyn y balconi y bwriedir ei godi. Gwerthuswyd y cais hefyd yn erbyn cyfarwyddyd dylunio’r Cyngor a gellir gweld y manylion yn yr adroddiad. Tra bo uchder y cynnig yn fwy nag uchder yr annedd fel ac y mae, nid yw hyn yn anarferol yn yr ardal hon.  O ran gorddatblygu mae yna ddigon o le ar y safle ar gyfer yr adeilad felly nid yw’r Swyddogion yn derbyn y pwynt arbennig hwn.  Pe bai yna unrhyw fwriadau i newid defnydd yr annedd i ddefnydd arall yna byddai hynny angen caniatâd cynllunio byddid yn delio â hynny ar ei rinweddau cynllunio os a phan fyddai hynny’n codi.  Dywedodd y Swyddog nad oedd yn ymwybodol o unrhyw broblemau traffig ac ni leisiwyd unrhyw gan yr Adain Briffyrdd.  Roedd angen i’r ymgeisydd ddangos y gallai’r cynllun dderbyn 6 cherbyd o fewn ei gwrtil yn unol ag anghenion parcio ac roedd yr ymgeisydd wedi gallu gwneud hynny.  Felly ni chafwyd unrhyw wybodaeth newydd dim ond cadarnhad gan yr ymgeisydd bod yna ddigon o le o fewn cwrtil y datblygiad ar gyfer 6 cerbyd.  Dywedodd y Swyddog nad oedd yn derbyn nad oedd trigolion yr ardal wedi cael gwybod am fwriadau yn eu cyfanrwydd.  Crybwyllwyd hefyd bod posibilrwydd y gallai 9 teulu fyw yn yr eiddo ond eglurodd y Swyddog - er mwyn i 9 teulu allu byw mewn un eiddo rhaid cael caniatâd cynllunio ac nid oedd hynny yn destun y cais arbennig hwn.  Rhaid rhoddi ystyriaeth i’r cais ar ei nodweddion ei hun fel yr oeddent wedi eu cyflwyno.  Tra bod y cynnig yn estyniad mawr nid oedd allan o gymeriad yn yr ardal a gellid lliniaru unrhyw effeithiau andwyol ar fwynderau drwy sgrinio ac felly argymhelliad y Swyddog oedd caniatáu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes nad oedd digon o resymau i wrthod y cais ar sail cynllunio ac felly cynigiodd ei fod yn cael ei dderbyn.  Eiliodd y Cynghorydd R. Jones y cynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: