Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i'r Pwyllgor ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Fusnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid bod rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gynhyrchu Strategaeth Gyfranogi sy’n nodi sut y câi pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhroses benderfynu’r Cyngor. Nod y strategaeth oedd annog pobl i gymryd rhan ym musnes y Cyngor ac ychwanegu at lwyddiant y Cyngor wrth ymgysylltu â thrigolion fel y cydnabyddid gan Archwilio Cymru. Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori gyda Swyddogion y Cyngor am gyfnod o bedair wythnos. Roedd canran uchel o ymatebwyr yn cytuno â chynnwys y Strategaeth, a ddangosai gefnogaeth i'r Strategaeth a'r bwriad i'w hadolygu'n rheolaidd. Cydnabuwyd bod angen gwella cyfraniad cynyddol plant a phobl ifanc ym mhenderfyniadau’r Cyngor, edrych ar ddulliau newydd o gasglu a chyflwyno adborth yn ddigidol ac ystyried ffyrdd o adrodd ar y llwyddiant/diffyg llwyddiant o ran cymryd rhan. Nododd y câi Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd ei chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 24 Hydref 2023 ac, wedi hynny, i'r Cyngor llawn ar 26 Hydref 2023, i'w gadarnhau.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-
· Holwyd beth oedd y trefniadau a'r prosesau ychwanegol y bwriedid eu rhoi yn eu lle i sicrhau y byddid yn cydymffurfio’n llawn â'r gofynion newydd. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen gan ddweud bod angen gwella cyfranogiad ac ymatebion i ymgynghoriadau, yn enwedig gan fod ymatebion i'r ymgynghoriadau yn is ymhlith y grŵp oedran 16 i 24. Byddid yn ailsefydlu’r Fforwm Plant a Phobl Ifanc er mwyn denu ymatebion i waith y Cyngor gan y genhedlaeth iau. Roedd angen ailsefydlu'r Bwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori er mwyn sicrhau y byddid yn cydymffurfio â Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd. Ychwanegodd fod angen asesu gwahanol ffyrdd o gasglu ymatebion digidol i ymgynghoriadau. Roedd angen ystyried ffactorau demograffig oherwydd y boblogaeth oedd yn heneiddio ar Ynys Môn. Mewn rhai achosion, nid oedd y boblogaeth hŷn yn defnyddio’r llwyfan digidol i ymateb i ymgynghoriadau a’i bod yn well ganddynt ymateb yn y dulliau traddodiadol.
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod angen annog yr ieuenctid i gymryd rhan yn swyddogaethau democrataidd y Cyngor. Dywedodd yr Is-Gadeirydd fod yr Arweinydd wedi gwahodd plant o Ysgol Gynradd y Fali yn ddiweddar i weld y swyddogaethau democrataidd ac i esbonio iddynt waith adrannau’r Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai fod llais plant a phobl ifanc yn hollbwysig i wasanaethau’r Awdurdod Lleol, oedd yn cael effaith arnynt yn feunyddiol. Dywedwyd, hefyd, y dylid annog disgyblion Ysgolion Uwchradd i ddod i’r Cyngor ac estyn gwahoddiad iddynt a bod ganddynt farn gref ar yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd yn eu cymunedau. Holwyd a oedd y Cyngor yn cynnig profiad gwaith ac a oedd yr ysgolion a'r asiantaethau lleol, oedd yn gweithio gyda phobl ifanc, yn ymwybodol o gyfleoedd i gael profiad gwaith. Ymatebodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid gan ddweud, mai fel y cyflogwr mwyaf ar Ynys Môn, câi cyfleoedd profiad gwaith eu rhoi i bobl ifanc gyda gwaith yn cael ei wneud gyda Choleg Llandrillo Menai i ddenu myfyrwyr i weithio mewn cartrefi preswyl. Roedd y Tîm Adnoddau Dynol yn gweithio'n agos gydag ysgolion i gynnig gwybodaeth am y cyfleoedd cyflogaeth oedd yn y Cyngor.
· Codwyd cwestiynau ynghylch goblygiadau ariannol gwireddu'r Strategaeth Gyfranogi arfaethedig. Ymatebodd y Prif Weithredwr gan ddweud na ragwelid y byddai unrhyw gostau ariannol ychwanegol mewn perthynas â'r Strategaeth gan ei bod yn ofyn statudol. Mynegodd ei bod yn bwysig manteisio ar dechnoleg ddigidol i roi cyfle i bobl ymgysylltu, ymgynghori a chael mwy o drigolion lleol i ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus. Fodd bynnag, dylid, hefyd, roi cyfle i bobl yr oedd yn well ganddynt beidio â defnyddio'r platfform digidol oedd ar gael. Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod gweithio gyda phartneriaid y trydydd sector yn hollbwysig yn eu hymwneud â thrigolion yr Ynys ac, wedi hynny, gallai’r Cyngor fanteisio ar eu hymarfer mapio.
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod angen i benawdau'r ymgynghoriadau fod yn fwy gweladwy eu cynnwys. Nodwyd nad oedd rhai trigolion yn ymwybodol y gallent gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar wahanol faterion yn y Cyngor. Rhoddwyd enghraifft - nad oedd pobl yn ymwybodol y gallent ddod i gyfarfodydd Pwyllgorau’r Cyngor a’r Cynghorau Tref a Chymuned, yn enwedig os câi mater lleol ei drafod oedd o bryder i drigolion lleol. Cytunodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig bod angen i'r pennawd ymgynghori fod yn fwy gweladwy ei gynnwys er mwyn denu pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus. Cytunodd ei bod yn bwysig, fel rhan o'r broses ddemocratiaeth, bod pobl yn dod i gyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned ac y gellid codi'r mater yn y Pwyllgor Safonau a'r fforwm Cynghorau Tref a Chymuned ar lefel gymunedol.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd am 2023/2028;
· Argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd Cyngor Sir Ynys Môn, bod y Cyngor llawn yn mabwysiadu Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, ei bod yn ddogfen fyw, yn cael ei hadolygu a’i diweddaru’n rheolaidd ac y bydd yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau hyd yn hyn;
· Awdurdodi'r Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Portffolio dros Fusnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid, i baratoi'r ddogfen derfynol, yn unol â'r fformat corfforaethol, cyn uwchlwytho'r ddogfen ar wefan y Cyngor.
GWEITHRED:- Gwahodd y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned i drafod rôl, pwrpas a chyfraniad cynghorau tref a chymuned wrth hyrwyddo ymgysylltiad a chyfraniad y cyhoedd pan fo'r Cyngor yn ymgynghori ar faterion penodol.
Dogfennau ategol: