Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofnodion:
Dywedodd Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion fod atal a diogelu wedi'i restru fel un o egwyddorion cyffredinol allweddol y Cyngor yng Nghynllun Corfforaethol 2023-2028. Pwysleisiodd fod diogelu yn flaenoriaeth i bawb ym mhob gwasanaeth o fewn y Cyngor.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y ffocws wedi bod ar gynllun gweithredu diogelu a sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i ganolbwyntio ar hyfforddiant gorfodol i holl staff y Cyngor. Cynhaliwyd wythnos Ddiogelu lwyddiannus ym mis Tachwedd 2023 - mae'r manylion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Nododd fod y cynnydd amlwg mewn achosion o gam-drin domestig ar Ynys Môn wedi cael ei drafod yn y Bwrdd Diogelu ac o ganlyniad uwchgyfeiriwyd y mater i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Pennaeth Gwasanaethau Tai a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn a Gwynedd. Nodwyd nad yw hon yn sefyllfa sy’n unigryw i Ynys Môn gan fod awdurdodau lleol eraill yn sylwi ar gynnydd mewn achosion o gam-drin domestig. Bydd Strategaeth Diogelu Corfforaethol newydd yn cael ei datblygu dros y misoedd nesaf ynghyd â blaen raglen waith a bydd Cylch Gorchwyl y Grwpiau Strategol a Gweithredu hefyd yn cael ei adolygu.
Wrth ystyried y Diweddariad Diogelu Corfforaethol Strategol cododd y Pwyllgor y materion canlynol:–
· Gofynnwyd am eglurder ynghylch pa fesurau sydd ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion hyfforddiant diogelu corfforaethol a sut mae'n cael ei fonitro ac yn enwedig mewn ysgolion. Mynegwyd hefyd y dylid cynnwys data hyfforddi Aelodau Etholedig yn yr adroddiad hefyd. Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y data'n dangos bod presenoldeb yn y sesiynau gorfodol ar ddiogelwch yn is na'r disgwyl mewn rhai gwasanaethau. Nododd fod trosiant staff yn ddiweddar mewn rhai gwasanaethau a bod rhai staff heb fynediad at liniaduron i dderbyn hyfforddiant o'r fath. Dywedodd y bydd trefniadau’n cael eu gwneud i wahodd yr unigolion hyn i Swyddfeydd y Cyngor i dderbyn yr hyfforddiant diogelu gorfodol maes o law. Cynhelir trafodaethau gyda Phenaethiaid Ysgolion i sicrhau bod y cwrs hyfforddiant diogelu gorfodol yn cael ei gwblhau gan bob aelod o staff.
· Cyfeiriwyd at y ffaith fod yr adroddiad yn dangos cynnydd amlwg mewn achosion o gam-drin domestig ar Ynys Môn. Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae'r Awdurdod ar hyn o bryd yn gwbl gymwys i ddelio â'r sefyllfa a rôl Heddlu Gogledd Cymru o ran y cynnydd mewn achosion o gam-drin domestig. Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, er bod cynnydd mewn achosion o gam-drin domestig, nid oes adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Nododd fod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Gorwel sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys pobl sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a digartrefedd. Cynhelir trafodaethau hefyd ar draws gwasanaethau'r Cyngor ac yn enwedig yr Adran Gwasanaethau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu data am achosion o gam-drin domestig. Mae staff yn y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd yn cefnogi plant sy'n byw mewn cartrefi lle mae achosion o gam-drin domestig. At hyn, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, oherwydd y cynnydd mewn achosion o gam-drin domestig, y gallai sefyllfa godi lle bydd angen creu 'rhestr aros' am gymorth – sefyllfa nad yw’r Awdurdod hwn yn dymuno bod ynddi. Codwyd cwestiynau pellach ynghylch a yw tueddiadau penodol wedi cyfrannu at gynnydd mewn achosion o gam-drin domestig h.y. tlodi, cyffuriau, alcohol. Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn fater cymhleth gyda sawl ffactor ynghlwm â cham-drin domestig. Nododd y gellir cyflwyno gwybodaeth ychwanegol am y gwahanol ffactorau sy'n ymwneud â cham-drin domestig i gyfarfod o'r Pwyllgor hwn yn y dyfodol.
· Codwyd cwestiynau ynghylch pa sicrwydd y gellir ei roi bod trefniadau ar waith i fodloni Amcan 2 y Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol yn llawn sy'n trafod gweithlu sy’n gymwys i gyflawni eu dyletswyddau diogelu yn effeithiol ar lefel sy'n ddigonol o ran eu rôl a'u cyfrifoldebau. Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod data staff sydd wedi mynychu cyrsiau hyfforddi gorfodol yn bwysig a bod digwyddiadau diogelu hefyd ar gael i staff er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion diogelu o fewn eu rôl a'u cyfrifoldebau.
· Cyfeiriwyd at y ffaith fod adroddiadau am lithriant yn erbyn sawl ffrwd waith allweddol. Codwyd cwestiynau ynghylch y rhesymau dros y llithriant a pha drefniadau sydd ar y gweill i liniaru'r effeithiau. Mewn ymateb, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod trefniadau wedi'u gwneud i sicrhau bod hyfforddiant sylfaenol o ymwybyddiaeth diogelwch a'r data a ddangosir yn yr adroddiad wedi gwella. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn bwysig recriwtio staff sydd â'r cymwyseddau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth o’u cyfrifoldebau o ran diogelu.
· Codwyd cwestiynau ynghylch data oedd ar gael mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr fod Bwrdd Partneriaeth Gwynedd a Môn yn derbyn data gan Heddlu Gogledd Cymru yn chwarterol am gaethwasiaeth fodern. Nododd mai'r Dirprwy Brif Weithredwr yw prif swyddog yr Awdurdod hwn ar y Bwrdd a gwneir trefniadau iddo adrodd i'r Pwyllgor hwn ar fater caethwasiaeth fodern.
PENDERFYNWYD nodi'r datblygiadau dros y 12 mis diwethaf sy'n cynnig sicrwydd bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau diogelu.
GWEITHREDU: Dylai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd sicrhau y dylai hyfforddiant diogelu corfforaethol fod yn rhan o'r Rhaglen Hyfforddi ar gyfer Aelodau Etholedig.
Dogfennau ategol: