Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i’w ystyried gan y Pwyllgor.
Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yr adroddiad yn cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol sydd wedi’i gyflwyno er mwyn cael cytundeb arno cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac i ddiweddaru aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cytundeb Cyflawni a’r Cynllun Cyfraniad Cymunedol. Dywedodd fod y Cynllun Datblygu Lleol angen ei fonitro’n flynyddol, a rhaid cyflwyno adroddiad yn crynhoi bob cyfnod monitro i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Yr Adroddiad Monitro Blynyddol yw’r adroddiad cyntaf gan yr Awdurdod hwn ar ôl i’r gwaith gyda Chyngor Gwynedd ddod i ben. Mae’r adroddiadau’n adlewyrchu pa mor effeithiol yw polisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol, ac mae hefyd yn ddarn pwysig o dystiolaeth ar gyfer adolygu’r Cynllun. Aeth ymlaen i ddweud bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhestru 9 prif ganfyddiad, a chyfeirir atynt o fewn yr adroddiad. Cyfeiriodd yn benodol at:-
· Y caniatâd a roddwyd ar gyfer 178 uned preswyl newydd yn ystod 2023/2024;
· Cwblhau 53 o unedau tai preswyl yn 2023/2024, sy’n 30% o’r gwaith a gwblhawyd eleni;
· Nodi bod 4747 o unedau wedi’u cwblhau yn ardal y Cynllun rhwng y dyddiad sylfaenol (2011) a 2022/23, ond mae’r taflwybr yn nodi ffigwr o 5663 uned.
· Mae 59% o’r unedau tai a ganiatawyd yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol o fewn Canolfannau Gwasanaeth Trefol. Mae 11.2% o unedau wedi’u caniatáu o fewn Canolfannau Gwasanaeth Trefol, gyda 29.8% pellach wedi’u caniatáu mewn Pentrefi, Clystyrau a Chefn Gwlad Agored.
· Caniatawyd 1 safle eithriad tai fforddiadwy (8 uned) yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol, caniatawyd 2 annedd menter gwledig ac 1 annedd fforddiadwy mewn cefn gwlad agored.
· Gwrthodwyd 5 allan o 8 apêl i PEDW yn ystod cyfnod yr Adroddiad Monitro Blynyddol hwn a chaniatawyd y 3 arall. Golyga hyn bod y gyfradd gwrthod apêl yn 63%.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Newid Hinsawdd fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi profi’n effeithiol. Dywedodd, wrth ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol yr Awdurdod, y bwriad yw adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud ac y bydd y Cynllun yn fuddiol i drigolion Ynys Môn.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones ei fod yn gwerthfawrogi’r gwaith sylweddol sydd wedi’i wneud i baratoi’r adroddiad, ond dywedodd nad oedd Aelodau wedi cael digon o amser i ddarllen y ddogfen a gwneud sylwadau. Argymhellodd y byddai angen cyfarfod anffurfiol er mwyn galluogi Aelodau i graffu ar y ddogfen. Dywedodd y Cadeirydd bod cyfarfod anffurfiol wedi’i gynnal yr wythnos ddiwethaf pan gyflwynwyd yr adroddiad hwn i Aelodau’r Pwyllgor. Dywedodd bod rhaid cyflwyno’r adroddiad i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y penawdau o fewn yr adroddiad ynghylch Cymunedau Diogel, Iechyd a Llesiant, yn ogystal â’r Cymunedau Cymraeg Bywiog. Dywedodd eu bod yn rhoi ystyriaeth i ddyfodol cymunedau lleol a sut mae’r boblogaeth yn newid yn y cymunedau hyn, yn ogystal â’r ffaith bod pobl sy’n Gymraeg iaith gyntaf yn symud i ffwrdd i fynd i brifysgol neu i weithio, ac yn symud i ardaloedd eraill ar yr Ynys. Dylai’r Cynllun Datblygu Lleol newydd ystyried y materion hyn yn y dyfodol. Cyfeiriodd at y pennawd o fewn yr adroddiad yn ymwneud â Mannau Agored a mannau chwarae digonol ar gyfer plant mewn safleoedd wedi’u heithrio. Dywedodd y Cadeirydd y dylai’r Cynllun Datblygu Newydd fynnu bod datblygwr yn darparu iawndal ariannol ar gyfer mannau chwarae fel cronfa cynnal a chadw, er mwyn ysgafnu’r baich ar Gynghorau Tref a Chymuned i ofalu am y mannau hyn i’r safonau gofynnol.
Yn dilyn hynny, cafwyd diweddariad gan y Rheolwr Polisi Cynllunio ar gynnydd y Cytundeb Cyflawni a’r Cynllun Cyfraniad Cymunedol. Dywedodd bod y Cytundeb Cyflawni wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor llawn mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2024, er mwyn ei gyflwyno am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymeradwyaeth, a gellir gweithredu’r amserlen sydd wedi’i nodi yn y Cytundeb Cyflawni yn unol â’r dyddiadau a ddarparwyd. Gofynnir bod copi o’r Cytundeb Cyflawni a llythyr eglurhaol Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Gwneir hyn unwaith y bydd fersiwn Llywodraeth Cymru o’r llythyr cytundeb wedi’i ddarparu. Dywedodd fod yr amserlen yn rhestru’r cam nesaf yn y broses, sef cyhoeddi ‘galwad am safleoedd’, a bydd hyn yn dechrau yn fuan fis Rhagfyr. Bydd y ‘galwad am safleoedd’ yn para am gyfnod o 8 wythnos. Dywedodd y Cadeirydd y byddai datganiad i’r wasg yn fanteisiol er mwyn cyhoeddi hyn.
Ni bleidleisiodd y Cynghorydd Robert Ll Jones.
PEDNERFYNWYD:-
· Cymeradwyo bod Adroddiad Monitro Blynyddol 2023/2024 a’i ganfyddiadau’n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Crymu erbyn 31 Hydref, 2024.
· Nodi’r materion yn ymwneud â’r Cytundeb Cyflawni a’r Cynllun Cyfraniad Cymunedol.
Dogfennau ategol: