Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 28ain Hydref, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 29 Gorffennaf, 2013 pdf eicon PDF 272 KB

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corffoeaethol a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf, 2013. 

 

Materion yn Codi – Gan gyfeirio at y ddau fater o dan eitem 9, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi rhoi sicrwydd y byddai’r eitemau hyn oedd wedi eu cyflwyno i’r cyfarfod diwethaf er gwybodaeth yn unig, ac yn arbennig Adroddiad Monitro Blynyddol 2012/13 i’r Comisiynydd Iaith Gymraeg, yn derbyn sylw llawn y flwyddyn nesaf ar yr amod fod y drafft ar gael mewn da bryd.

3.

Diweddariad gan y Cadeirydd ac Adborth gan Gynrychiolwyr Sgriwtini pdf eicon PDF 248 KB

Derbyn diweddariad gan y Cadeirydd a lle bo’n briodol, derbyn adborth gan gynrychiolwyr sgriwtini ar y grwpiau a’r fforymau canlynol -

 

·        Panel Deilliant SgriwtiniCostau Gwresogi mewn Gofal PreswylRheolwr Sgriwtini i gyflwyno diweddariad ar lafar

 

·        Panel Rhiantu Corfforaethol (Cofnodion cyfarfod 22 Gorffennaf ynghlwm)

·        Grwp Tasg yr Iaith Gymraeg - Cynghorydd R.Meirion Jones

·        Gweithgor Adolygu Polisi Gosod Tai - Cynghorwyr Peter Rogers a R.Jones

 

·        Bwrdd Rhaglen Ynys FenterCynghorwyr Derlwyn Hughes a Carwyn Jones

·        Bwrdd Rhaglen Rhagoriaeth Gwasanaeth - Cynghorwyr Peter Rogers ac Alun Mummery

 

·        Bwrdd Prosiect Rhagoriaeth Gwasanaeth - Cynghorydd Peter Rogers

·        Bwrdd Prosiect Trawsnewid Addysg

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd - lle'r oedd cynrychiolwyr Sgriwtini wedi eu gwahodd i wasanaethu ar amrywiol banelau a grwpiau yn y Cyngor, y disgwyliad a’r dymuniad oedd eu bod, lle bo hynny’n briodol ac yn berthnasol, yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.  Yna rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Aelodau ar y sefyllfa ynglŷn â’r canlynol

 

·        Y Panel Canlyniad Sgriwtini ar Gostau Gwresogi mewn gofal preswylcadarnhaodd y Cadeirydd bod cyfarfod cychwynnol a chynhyrchiol wedi ei gynnal gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Technegol Tai.  Mae’r Panel wedi penderfynu gwneud gwaith pellach ar y mater hwn a bydd yn adrodd ar gynnydd i’r Pwyllgor yn y flwyddyn newydd.

·        Panel Rhiant Corfforaethol - cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf er gwybodaeth i’r Aelodau.

·        Grŵp Tasg Iaith Gymraeg - dywedodd y Cadeirydd nad oedd wedi gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod diweddar o’r Grwp Tasg a hynny oherwydd ymrwymiadau eraill ond roedd wedi ymrwymo i fynychu’r cyfarfod nesaf.

·        Gweithgor Adolygu Polisi Gosod Tai - dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau bod y gynrychiolaeth Sgriwtini ar y Grŵp bellach wedi ei gadarnhau.

·        Byrddau Prosiect a Byrddau Rhaglen Trawsnewid - tra’n cydnabod mai cyfarfodydd mewnol yw’r rhain, dywedodd y Cadeirydd ei fod yn awyddus i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol dderbyn atborth cyffredinol ar gynnydd a negeseuon allweddol ar weithgareddau trawsnewid.

 

CAMAU GWEITHREDU: Y Cadeirydd i gysylltu gyda’r Rheolwr Sgriwtini i benderfynu ar ffurf ac amseriad yr atborth i’r Pwyllgor gan gynrychiolwyr Sgriwtini ar y Grwpiau a’r Paneli a grybwyllwyd uchod.

4.

Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2012/13 ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon am 2012/13 ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn (Eitem a ohiriwyd o gyfarfod y Pwyllgor ar 29 Gorffennaf)

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer yn rhoi gwybodaeth ar gwynion i’r Ombwdsmon yn ystod 2012/13 a hefyd wybodaeth gymharol o 2011/12.  Roedd yr adroddiad hefyd yn ymgorffori Llythyr Blynyddol 2012/13 yr Ombwdsmon, croestoriad ystadegol o ganlyniadau yn ôl Awdurdod Lleol o ran cwynion Côd Ymddygiad a gwybodaeth a gafwyd o Lythyrau Blynyddol 2010/11 a 2011/12 yn cynnwys gwybodaeth gymharol am bob un o’r 22 Awdurdod Lleol.

 

Rhoddodd y Swyddog Gofal Cwsmer grynodeb i’r Pwyllgor o’r prif negeseuon yn yr adroddiad gyda chyfeiriad arbennig at berfformiad Cyngor Sir Ynys Môn.

 

Codwyd y materion canlynol gan yr Aelodau :

 

·        Pryder ynglŷn â’r cyfnod amser o ran ymateb i geisiadau am wybodaeth gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus gyda 28% o’r ymatebion wedi cymryd mwy na 6 wythnos er ei fod yn cael ei gydnabod bod hyn yn berthnasol i’r holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru ac nid i Gyngor Sir Ynys Môn yn unig.  Roedd yr Aelodau’n credu bod gwella ymatebolrwydd yr Awdurdod yn gyffredinol yn faes sydd angen sylw.  Nododd y Dirprwy Brif Weithredwr bod hwn yn un o’r pethau sy’n cael sylw’r Bwrdd Prosiect Rhagoriaeth Gwasanaeth a chadarnhaodd y Swyddog Gofal Cwsmer hefyd bod y data i’w weld fel pe bai’n dangos bod amseroedd ymateb Cyngor Sir Ynys Môn yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd o 4-5 wythnos.

·        Y nifer o gwynion yn ymwneud â chynllunio a Rheoli Adeiladu a sut y mae hyn yn cymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru

·        Y polisi a’r agwedd o safbwynt delio â chwynion a gwahaniaethu rhwng achwynwyr blinderus.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI.

5.

Materion Cyllidol - Adroddiad Monitro'r Gyllideb Gyfalaf Chwarter 1 2013/14 pdf eicon PDF 318 KB

Cyflwyno adroddiad Monitro’r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Chwarter 1 2013/14 (Adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 9ed Medi, 2013)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Adroddiad Monitro Cyllideb Cyfalaf Chwarter 1 2013/14 fel oedd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Medi.

 

Un mater a godwyd i’w drafod gan Aelodau’r Pwyllgor oedd mater rheoli’r stad mân-ddaliadau a’r hyn oedd yn cael ei weld fel dychweliad annigonol i’r Awdurdod ar yr ased hon.  Pwysleisiwyd bod angen gwneud i’r portffolio mân-ddaliadau weithio i’r Awdurdod o ystyried y rhagolygon ariannol heriol sydd gerbron.

 

Penderfynwyd nodi sefyllfa’r Gyllideb Gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 1.

DIM CAMAU GWEITHREDU YN CODI.

6.

Materion Cyllidol - Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw Chwarter 1 2013/14 pdf eicon PDF 341 KB

Cyflwyno adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw ar gyfer Chwarter 1 2013/14 (Adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 9ed Medi, 2013)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i ystyriaeth y Pwyllgor, Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw Chwarter 1 2013/14 fel y cafodd ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith ar 9 Medi.

 

Tynnodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) sylw’r Aelodau at y ffaith bod llawer o waith wedi ei wneud ar y gyllideb ers rhyddhau’r adroddiad a hynny i fynd i’r afael â’r sefyllfa o ddiffyg oedd yn cael ei ragweld ar ddiwedd Chwarter 1 a bod y diffyg hwnnw wedi lleihau o ganlyniad.  Fe wnaeth y Swyddog, fodd bynnag, amlygu’r angen i fonitro’r sefyllfa o safbwynt gorwariant tebygol o ran budd-daliadau yn dilyn newidiadau i’r system les (taliadau tai dewisol a threth gyngor).

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Cymuned i’r Aelodau y camau oedd wedi eu cymryd ac a oedd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â gorwariant £1.295m ar ofal cymdeithasol fel yr adroddwyd ar ddiwedd Chwarter 1 gyda chyfeiriad penodol at weithio ar y cyd rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adran Gyllid er mwyn egluro systemau gwybodaeth/ariannol.  Roedd gwaith oedd wedi ei wneud yn y chwarter mwyaf diweddar wedi arwain at newid yn y proffil risgiau a’r proffil ariannol oedd yn cael ei adrodd yn Chwarter 2.  Er bod rhaid parhau i fod yn wyliadwrus ynglŷn â’r sefyllfa ariannol, roedd lefel y pryder yn Chwarter 2 wedi gostwng o’r hyn a welwyd yn Chwarter 1.  Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) bod y ffigyrau wedi gwella’n arw er ei bod am bwysleisio bod angen sgriwtineiddio’r data ymhellach.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Cymuned ymlaen wedyn i roi diweddariad i’r Pwyllgor yn llafar ar gynnydd ar y rhaglen o drawsnewid gwasanaethau gofal preswyl i oedolion hŷn yn dilyn ymgynghori gyda phreswylwyr yn unol â chais y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf.  Cyfeiriodd at yr angen i benderfynu ar y blaenoriaethau yn y rhaglen a hefyd y dyheadau yn nhermau yr hyn y mae’r gwasanaeth yn dymuno ei ddarparu o ran gofal a llety, ac yn benodol ddatblygu tai gofal ychwanegol.  Mae gwaith hefyd wedi bod yn mynd ymlaen ar baratoiDogfen Bwriadau Gwasanaeth”.  Bydd hyn yn cael ei drafod ymhellach gyda’r Aelodau.  Nododd y Swyddog hefyd y sefyllfa yng Nghaergybi o safbwynt datblygu opsiynau gofal cymdeithasol a dewisiadau, statws Cartref Preswyl Garreglwyd a natur bresennol y ddarpariaeth yn y cyfleuster a’r syniadau sydd ar hyn o bryd yn llywio’r datblygiadau a’r bwriadau.

 

Yn dilyn ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd, roedd yr Aelodau am amlygu’r canlynol fel pwyntiau i’w trafod

 

·        Y cyfnod amser ar gyfer darparu’r Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn benodol mewn perthynas â’r cerrig milltir allweddol o ran y penderfyniadau sydd i’w gwneud.

·        Yr incwm oedd yn cael ei golli i’r Awdurdod yn y cyfamser oherwydd gwelyau gwag.

·        Yr angen i ymgysylltu gydag Aelodau etholedig yng Nghaergybi o safbwynt rhoi gwybodaeth iddynt am ddatblygiadau sydd yn digwydd yn yr ardal.

 

Penderfynwyd nodi sefyllfa’r Gyllideb Refeniw  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ffioedd Gwasanaethau i Denantiaid a Lesddeiliaid pdf eicon PDF 64 KB

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Tai).

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) yn amlinellu trefniadau presennol yr Awdurdod ar gyfer codi tâl am wasanaeth, y sgôp ar gyfer cyflwyno taliadau a’r materion oedd ynglŷn â hynny.

 

Yn dilyn ystyried yr adroddiad, holodd yr Aelodau ynglŷn â rhai agweddau o’r cynigion yn arbennig o safbwynt gweinyddu’r system o ran costau a delio gyda rhai na fyddai’n cydymffurfio.  Fe wnaed y sylwadau canlynol :

 

·        Roedd rhai o’r Aelodau yn eithaf cefnogol i gyflwyno taliadau am wasanaeth mewn egwyddor yn arbennig o ystyried y diffyg yn y gyllideb y mae’r Awdurdod yn ei wynebu a’r angen i ganfod ffyrdd o fynd i’r afael â’r diffyg hwnnw, ond gyda’r cymal y bydd yn rhaid ystyried y rhai sydd yn fregus os byddir yn gweithredu ar y cynigion. 

·        Mynegodd rhai o’r Aelodau amheuon y byddai’r cynigion yn cael effaith ar denantiaid ar gyflogau isel ac y byddent yn gost ychwanegol sylweddol iddynt.

·        Roedd amheuon ynglŷn ag adwaith tenantiaid at newid i system oedd wedi bod mewn grym ers amser hir a’r angen wedi hynny i’r cynigion gael eu cyflwyno a’u gweithredu mewn ffordd sensitif.

·        Roedd rhai amheuon na fyddai torri gwair yn digwydd o gwbl pe bai ffioedd yn cael eu cyflwyno i’r rhai dros 60 oed.

 

Penderfynwyd

 

Nodi’r canfyddiadau a’r argymhellion o Gam 1 y prosiect fel oedd i’w weld yn yr adroddiad.

Nodi’r sylwadau a wnaed o ran symud ymlaen gyda’r prosiect a’u cyfeirio hwy i’r Pwyllgor Gwaith.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) i adrodd ar yr atborth sgriwtini i’r Pwyllgor Gwaith.

8.

Materion Perfformiad - Cerdyn Sgorfwrdd Chwarter 2 2013/14 a Materion Perthynol pdf eicon PDF 445 KB

·        Cyflwyno’r Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2013/14.

 

·        Cyflwyno gwybodaeth eglurhaol am berfformiad y Gwasanaeth Oedolion am Chwarter 1 ynghyd â cherdyn sgorfwrdd y gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.1  Cyflwynwyd y Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 2 i  sylw’r Pwyllgor.  Roedd y Cerdyn Sgorio yn dangos y sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 2 o safbwynt perfformiad a chynnydd yn erbyn dangosyddion allweddol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Perfformiad a Chynllunio Busnes wrth yr Aelodau - yn dilyn sylwadau’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 29 Gorffennaf ynglŷn â fformat yr adrodd yn ôl ar y Cerdyn Sgorio ei fod yn dymuno gweld mwy o stori i ategu’r data, fe fydd yr adroddiad fydd yn dod ynghyd â’r Cerdyn Sgorio o hyn ymlaen yn cynnwys gwybodaeth bellach.  Aeth y Swyddog ymlaen i amlygu’r meysydd lle y bu newidiadau yn y sgôr CAG neu lle'r oedd y statws CAG yn parhau ar goch ac eglurodd pa gamau  oedd wedi eu cymryd mewn ymateb i faterion a godwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod fis Gorffennaf.

 

Ystyriodd yr Aelodau y wybodaeth a gyflwynwyd ac roeddent am dynnu sylw at y materion canlynol –

 

·        Y ganran o ymweliadau statudol i blant y gofelir amdanynt yn y flwyddyn a wnaed yn unol â rheoliadau ac a oedd yn dwyn sgôr CAG coch.

·        Presenoldeb salwch a % y cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd gyda’r ddau yn is na’r targed a chyda sgôr CAG coch.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymyrraeth gynnar yn y meysydd hyn o reoli pobl ac awgrymwyd y dylid gwneud gwaith o’i gwmpas.

·        Gan gyfeirio at Wasanaeth y Cwsmer a’r amser y mae’n ei gymryd i ymateb i alwadau ffôn a’r anawsterau y deuir ar eu traws wrth gael eich cyfeirio i’r person cywir.  Cwestiynwyd pa mor ymarferol oedd hi i osod amser ymateb o 5 eiliad ar gyfer desg y dderbynfa.

 

Ymatebodd y Swyddogion i’r pwyntiau a godwyd gan roi eglurhad i’r Aelodau am y sefyllfa ym mhob achos a’r camau a gymerwyd neu sy’n cael eu cymryd lle bo hynny’n berthnasol.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa fel oedd yn cael ei adlewyrchu gan y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Rheolwr Rhaglen a Chynllunio Busnes i adrodd ar yr atborth sgriwtini i’r Pwyllgor Gwaith.

 

8.2  Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn amlinellu’r camau gweithredu oedd yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r meysydd gwasanaeth o fewn gwasanaethau oedolion lle'r oedd statws CAG coch ar ddiwedd Chwarter 1 ynghyd â Cherdyn Sgorio mewnol y Gwasanaeth ei hun.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Pobl Hŷn ac Anableddau Corfforol (a’r Rheolwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu) grynodeb o’r cynnydd hyd yn hyn o safbwynt gwella’r perfformiad gyda chefnogi gofalwyr anffurfiol oedolion trwy gynnal asesiad neu adolygiad o’u hanghenion yn ystod y flwyddyn, sef un o’r dangosyddion perfformiad oedd yn goch yn y chwarter blaenorol.  Pwysleisiodd y Swyddogion bod cefnogi gofalwyr yn un o’r prif feysydd blaenoriaeth yn y Gwasanaethau Oedolion ac yn fwriad strategol allweddol. 

 

Aeth y Swyddog Prosiectau ymlaen wedyn i egluro’r siwrnai i wella hyd yn hyn mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Oedolion gyda rheoli absenoldeb salwch a chynnal cyfweliadau dychwelyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Materion Perfformiad - Cynllun Gwella Blynyddol 2013/14 pdf eicon PDF 709 KB

Cyflwyno’r Cynllun Gwella Blynyddol ar gyfer 2013/14 er mwyn i’r Pwyllgor ystyried pa argymhellion i’w monitro am weithrediadau ar draws y gwasanaethau perthnasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gynllun Gwella drafft Cyngor Sir Ynys Môn 2013/14.  Roedd y Cynllun yn nodi prif flaenoriaethau’r Cyngor yn y 12 mis i ddod ynghyd â’r broses werthuso, yn cynnwys y dogfennau oedd yn helpu’r broses, ac a oedd wedi helpu i nodi’r amcanion gwella o fewn y cynllun.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac yn cytuno gyda’r amcanion gwella oedd wedi eu nodi ynddo.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

10.

Gofalwyr Anffurfiol Oedolion - Bwriadau Comisiynu Lleol a Blaenoriaethau pdf eicon PDF 464 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn amlinellu bwriadau comisiynu arfaethedig a’r blaenoriaethau mewn perthynas â gofalwyr anffurfiol (oedolion).

 

Cafwyd cyflwyniad gweledol i’r Aelodau gan Gydlynydd y Strategaeth Pobl Hŷn yn crynhoi’r prif faterion oedd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd Eirian Wynne, Prif Swyddog, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr ei bod yn croesawu’r ddogfen a’i bod yn edrych ymlaen i’w drafod mewn manylder yn y cyfarfod o’r Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr ar 28 Tachwedd. 

 

Bu’r Aelodau yn trafod yr adroddiad gan nodi materion mewn perthynas â’r pwysau hefyd oedd ar ofalwyr ifanc a’r angen i’w nodi hwythau ac i roi sylw strategol i’w anghenion; beth yw’r manteision pe bai gofalwyr yn dod ymlaen at yr Awdurdod a sut y gellir meintioli’r manteision, a pha mor bwysig oedd hi i ofalwyr fod gofal ysbaid ar gael.

 

Penderfynwyd  -

 

·        Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r weledigaeth oedd yn sylfaenol i’r ddarpariaeth ar gyfer Gofalwyr Anffurfiol; y blaenoriaethau strategol arfaethedig i Fôn a’r Cynllun Gwella amlinellol am y tymor canol.

·        I nodi’r perfformiad lleol yn erbyn y Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

11.

Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg y Gwasanaeth Addysg pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno diweddariad ar gynnydd ar Gynllun Gweithredu Ôl-Arolwg y Gwasanaeth Addysg.

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dysgu Gydol Oes ar y cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu Ôl-arolwg, er ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Cafwyd diweddariad gan Mr. Gareth Williams, Pennaeth Gwasanaeth ar y sefyllfa o ran cynnydd yn erbyn y saith argymhelliad allweddol a wnaed gan Estyn ac ar y perfformiad cyfredol fel oedd i’w weld yn Atodiad 3 yr adroddiad a’r hyn yr oedd yn ei ddangos am y gwelliannau oedd yn cael eu gwneud. 

Bu’r Aelodau yn ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd ac mewn trafodaeth gynhwysfawr, rhoddwyd sylw i’r materion canlynol yn arbennig

 

·        Presenoldeb yn yr ysgolion a materion cysylltiedig gan gynnwys y goblygiadau o ran yr effaith yr oedd cyfraddau presenoldeb yn eu cael ar safle’r Awdurdod o ran perfformiad. Trafododd yr Aelodau ffyrdd o wella ymhellach y cyfraddau presenoldeb, y dulliau mwyaf effeithiol i’w cymryd i’r perwyl hwnnw a’r rôl allweddol oedd yn cael ei chwarae gan y Swyddogion Lles Addysg.

·        Arholiadau a’r nifer o ddisgyblion nad ydynt, am ba reswm bynnag, yn eistedd arholiadau a sut y maent yn ffitio i mewn i’r ystadegau perfformiad ynghyd â’r ddarpariaeth ar eu cyfer o ran llwybrau dysgu eraill.

 

Ymatebodd y Swyddogion drwy egluro’r materion a godwyd.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad cynnydd a nodi ei gynnwys.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

12.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 533 KB

Cyflwyno Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor  er mwyn i Aelodau ei chymeradwyo, adolyu neu ei diwygio. (Yr adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod 29 Gorffennaf ynghlwm)

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio ystyried y mater hwn hyd y cyfarfod nesaf.

13.

Materion er Gwybodaeth - Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 1 MB

·        Cyflwyno adroddiad ynghylch Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru Ebrill, 2011 i Fawrth, 2014 (Adroddiad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 4ydd Tachwedd)

 

·        Adrodd y bydd cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cael ei gynnal am 1 o’r gloch y prynhawn, dydd Gwener, 15 Tachwedd, 2013 i ystyried mater capasiti ac adnoddau ar gyfer newid yng nghyd- destun cyflawni’r Rhaglen Drawsnewid.

 

 

Cofnodion:

13.1  Adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgell yn ymgorffori Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2012/13  a hefyd asesiad Llywodraeth Cymru o’r Gwasanaethau Llyfrgell 2012/13 – er gwybodaeth.

13.2  Nodwyd y bydd cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cael ei gynnal am 1:00 pm ddydd Gwener, 15 Tachwedd 2013 i ystyried y mater o gapasiti ac adnoddau dros newid yng nghyd-destun darparu’r Cynllun Trawsnewid.